Drwy gystadlu yng Ngwobrau GO, rydych chi’n cytuno i’r Telerau ac Amodau canlynol

  1. At ddibenion y rheolau hyn, trefnydd y digwyddiad yw BIP Solutions Ltd
  2. Rhaid cyflwyno ceisiadau ar lwyfan Gwobrau GO erbyn 5pm ar y dyddiad cau fan bellaf (neu ddyddiad yr estyniad pan fydd Trefnydd y Digwyddiad yn rhoi gwybod am hyn). Ni dderbynnir unrhyw ffordd arall o gyflwyno cais.
  3. Ni ellir gwarantu y bydd unrhyw gynigion a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau a gyhoeddwyd yn cael eu derbyn. Os bydd amgylchiadau arbennig yn effeithio ar eich gallu i gyflwyno cais erbyn y dyddiad cau, dylech gysylltu â Threfnydd y Digwyddiad yn ysgrifenedig cyn hynny.
  4. Rhaid llwytho pob cais i fyny yn unol â’r fanyleb a nodir ar lwyfan Gwobrau GO.
  5. Gellir diwygio’r ceisiadau ar ôl eu cyflwyno hyd at y dyddiad cau neu ddyddiad yr estyniad. Ni ellir addasu’r ceisiadau ar ôl hynny, ond gellir eu tynnu o’r broses feirniadu os bydd cais i wneud hynny’n cael ei anfon yn ysgrifenedig, drwy e-bost at Drefnydd y Digwyddiad.
  6. Cyfrifoldeb y sawl sy’n cyflwyno cais i’r Gwobrau yw sicrhau nad yw’n cynnwys unrhyw wybodaeth neu gynnwys arall y gellid ei ystyried yn amhriodol neu’n niweidiol i unrhyw unigolyn neu sefydliad. Nid yw Trefnydd y Digwyddiad yn atebol am unrhyw ddifrod, uniongyrchol nac anuniongyrchol a achosir o ganlyniad i gynnwys cais ar gyfer y Gwobrau.
  7. Bydd Trefnydd y Digwyddiad yn cymryd yn ganiataol bod gennych chi ganiatâd i gymryd rhan yn y Gwobrau ar ran eich sefydliad. Os nad yw hyn yn wir, dylech ofyn am ganiatâd o’r fath.
  8. Mae Trefnydd y Digwyddiad yn cadw’r hawl i ailddyrannu ceisiadau i gategori y mae’n ei ystyried yn fwy priodol i gynnwys neu natur y cais hwnnw. Os bydd hyn yn digwydd, bydd Trefnydd y Digwyddiad yn cysylltu â’r person a nodir yn y cais i drafod y posibilrwydd o ail-ddyrannu ymlaen llaw. Bydd y sefydliad sy’n cystadlu yn y Gwobrau yn penderfynu yn ôl ei ddisgresiwn a yw’n fodlon i’w gais gael ei ailddyrannu. Os cytunir ar ail-ddyrannu, efallai y bydd yn rhaid i’r ymgeisydd ddiweddaru ei gais i adlewyrchu’r cwestiynau sy’n gysylltiedig â’r categori hwnnw. Bydd uchafswm amser o ddau ddiwrnod gwaith ar gyfer gwneud newidiadau o’r fath. Os na chytunir ar ail-ddyrannu, mae Trefnydd y Digwyddiad yn cadw’r hawl i eithrio’r cais o’r categori y cafodd ei roi ynddo.
  9. Os na fydd categori Gwobr unigol yn cael digon o geisiadau i fod yn hyfyw (llai na thri fel arfer), mae Trefnydd y Digwyddiad yn cadw’r hawl i ailddyrannu ceisiadau i gategorïau eraill y mae’n credu sy’n addas, yn unol â’r dull gweithredu a amlinellir ym mhwynt (6) uchod.
  10. Mae’r panel beirniadu’n cadw’r hawl i wahardd cais os nad yw’n bodloni Rheolau’r Digwyddiad.
  11. Bydd y panel beirniadu’n defnyddio arferion gorau, tegwch a thryloywder i fynd ati’n feirniadol i werthuso pob cais a gyflwynir i’r Gwobrau. Bydd penderfyniad y panel beirniadu’n derfynol. Dylid anfon unrhyw ohebiaeth ynghylch penderfyniad y panel beirniadu at Drefnydd y Digwyddiad yn ysgrifenedig, gan gynnwys drwy e-bost. Er y bydd Trefnydd y Digwyddiad yn ymdrechu i ddarparu adborth ynghylch ei benderfyniadau, mae’n cadw’r hawl i ystyried unrhyw ohebiaeth a gyhoeddir fel ymateb llawn a therfynol.
  12. Drwy gymryd rhan yn y Gwobrau, rydych chi’n rhoi caniatâd i drefnydd y digwyddiad hyrwyddo cyfranogiad eich sefydliad yn yr holl weithgarwch hyrwyddo sy’n ymwneud â’r Gwobrau cyn ac ar ôl y digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys defnyddio’r holl frandio, delweddau a chynnwys sy’n gysylltiedig â’r Wobr, ar wahân i unrhyw beth sydd wedi’i farcio’n gyfrinachol neu’n sensitif.
  13. Ni all Trefnydd y Digwyddiad drafod cais gydag unrhyw un ar wahân i’r sawl sy’n gyfrifol am gyflwyno’r cais heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.
  14. Dylai pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol fod yn barod i fynychu’r Seremoni Wobrwyo yn bersonol.