Beirniaid Gwobrau GO Cymru 2023/24

Grahame Steed​

Cyfarwyddwr Cynnwys, Ymchwil a Chyfathrebu, BiP Solutions

Ymunodd Grahame â BiP Solutions yn 2003 ac mae wedi dal swyddi Uwch Swyddog Gweithredol, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Cyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata, Rheolwr Gyfarwyddwr ar gyfer Datrysiadau Cyfryngau a Marchnata, a Chyfarwyddwr Gwybodaeth Busnes ac eGyrchu. Nawr, fel Cyfarwyddwr Cynnwys, Ymchwil a Chyfathrebu, mae Grahaeme yn gyfrifol am sbarduno twf y busnes trwy greu a darparu’r data, y cynnwys a’r mewnwelediad mwyaf cywir, perthnasol a gweithredol posibl.

Richard Dooner

Rheolwr Rhaglen, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

Prif swyddog caffael CLlLC. Daeth Richard i faes caffael cyhoeddus o gefndir logisteg, rheoli cangen a gwerthiant busnes-i-fusnes yn y sector preifat. Dechreuodd fel aelod o dîm caffael gweithredol Cyngor Caerdydd lle bu’n rhedeg Catalog Cyflenwadau’r Sir a chyfres eraill o fframweithiau caffael a ddirprwywyd iddo; yna aeth ymlaen i gynllun ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a CLlLC, Uned Cymorth Caffael Llywodraeth Leol Cymru; ac wedyn i dîm craidd CLlLC. 

Mae’n hyrwyddwr gwerth cymdeithasol a llesiant cenedlaethau’r dyfodol, yn chwarae rhan allweddol gyda chynnal cysylltiadau rhwng llywodraeth ganolog/leol, yn cydlynu’r Rhwydwaith Caffael Cenedlaethol ar gyfer cynghorau yng Nghymru, a llawer mwy.  Mae’n cyflawni gwaith byddin o bobl ei hun ac mae’n hynod ffyddlon i’w rhwydwaith o swyddogion caffael. Mae’n cydlynu ymatebion llywodraeth leol i ymgynghoriadau ac yn cyfrannu at raglen ddiwygio’r Llywodraeth.  Yn 2021, sefydlodd Richard y Grŵp Arbenigol NPN Market Intelligence Expert Group ac, ar hyn o bryd, mae’n gweithio fel ymchwilydd, golygydd a chyhoeddwr.  Dywed mai dim ond dyn-canol yw ef; mae’r gwerth yn dod o’r bobl eraill yn y grŵp a’r wybodaeth sydd ganddynt; ond dyna mae Richard yn ei wneud, mae’n cymell y gorau o’r bobl sydd o’i gwmpas.

Mae Richard wedi siarad ar lwyfannau cenedlaethol, yn yr Expo Caffael Cenedlaethol ar Lywodraeth Leol yn sôn am Gaffael mewn Amseroedd Caled, yn trafod Llywodraeth Leol yn y Gynhadledd Gwerth Cymdeithasol Genedlaethol ac am Drawsnewid Digidol mewn Dosbarth Meistr GovNews.  Ac yntau’n gynrychiolydd Cymru i’r Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar gaffael yr LGA, mae’n darparu bwletin wythnosol i rwydwaith estynedig o 114 o randdeiliaid caffael a chyfeirir ato yn y Social Value Roadmap 2023, sy’n ddogfen genedlaethol bwysig.

Hyd yn hyn, yn 2022/23 mae wedi ymddangos mewn 10 digwyddiad cyfryngau digidol allanol (nad ydynt yn ymwneud â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru).  Hyd yma, mae 21 o ddigwyddiadau byw unigol ar-lein gyda chyfweliadau, cyflwyniadau, prif areithiau ac adroddiadau lle cydnabyddir neu cyfeirir at Richard fel cyfrannwr. 

Dr. Jane Lynch

Darllenydd ym maes Caffael a’r Gadwyn Gyflenwi, Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd

Mae Jane yn Ddarllenydd ym maes Caffael yr adran Rheoli Logisteg a Gweithrediadau yn Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd.

Mae meysydd ymchwil ac addysgu Jane yn cynnwys arloesoedd a chaffael cyhoeddus cymdeithasol, rheoli’r gadwyn gyflenwi, a chydweithio. Jane yw arweinydd strategol y Labordai Caffael mewn prosiect a ariennir gan WEFO, sef Infuse (Gwasanaethau Cyhoeddus Arloesol y Dyfodol). Jane yw Cyfarwyddwr Rhaglen ‘Help to Grow Management’ a ariennir gan Lywodraeth y DU ac a gyflwynir yn Ysgol Busnes Caerdydd gyda’r nod o gefnogi busnesau bach a chanolig i dyfu.

Rolau Ychwanegol:
Aelod o IRSPP (astudiaeth ymchwil ryngwladol ar gaffael cyhoeddus)
Cadeirydd Cangen De Cymru o’r Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi (CIPS) Cyfarwyddwr Cyswllt (MICW) y Sefydliad ar gyfer Cydweithio (ICW), Cymru.

Johnathan Irvine

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Caffael, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Dechreuodd Jonathan fel Cyfarwyddwr Caffael a Gwasanaethau Negesydd Iechyd ym mis Medi 2019.

Mae gan Jonathan brofiad helaeth o arwain ym maes caffael ar lefel genedlaethol o’i gyfnod yn y Sefydliad Gwasanaethau Busnes, y Gwasanaeth Caffael a Logisteg yng Ngogledd Iwerddon, lle bu’n ymwneud â gweithredu a datblygu gwasanaeth caffael a logisteg ar y cyd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar draws y wlad. 

Yn fwyaf diweddar, mae wedi arwain y swyddogaeth Gwasanaethau Caffael ar gyfer un o’r Ymddiriedolaethau acíwt mwyaf yn Lloegr, Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Athrofaol Nottingham, lle cyflwynodd raglenni lleihau costau sylweddol a chyflwynodd ddulliau caffael arloesol sy’n seiliedig ar werth gan ganolbwyntio ar ganlyniadau cleifion.

Bydd yn galw ar ei brofiad er mwyn datblygu’r dull caffael “Unwaith i Gymru” yn y GIG a sicrhau bod y genedl yn harneisio ac yn defnyddio ei phŵer a’i dylanwad prynu ar y cyd i ddarparu cynnyrch, gwasanaethau a systemau gofal iechyd sy’n cynnig gwerth am arian ar gyfer cleifion Cymru. Bydd Jonathan yn sicrhau bod y Gwasanaethau Caffael hefyd yn parhau i gefnogi Byrddau Iechyd a’r holl bartneriaid allanol i ddarparu gwasanaethau cost effeithiol ac effeithlon i gefnogi cleifion yn eu hardal leol.

Carl Thomas

Arweinydd Polisi a Rhanddeiliad Diwygio’r Broses Gaffael, Llywodraeth Cymru

Mae gan Carl gyfoeth o brofiad caffael cyhoeddus ar ôl arwain tîm caffael llwyddiannus yn un o gymdeithasau tai mwyaf Cymru.

Cyn ymuno â Llywodraeth Cymru, bu Carl yn gweithio i’r Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi (CIPS), lle bu’n addysgu arferion gorau ym maes caffael a rheoli cytundebau i sefydliadau yn y sector cyhoeddus a phreifat ledled y byd. Chwaraeodd Carl ran bwysig yng ngwaith y Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi yn dilyn Grenfell, a chefnogodd waith Gweithgor 11 i gytuno ar lefelau cymhwysedd caffael penodol ar gyfer pobl sy’n ymwneud â datblygu adeiladau preswyl risg uwch newydd.

Yn ei rôl bresennol, mae Carl yn gyfrifol am ddatblygu gweithgarwch ymgysylltu ehangach ym maes Diwygio’r Broses Gaffael i Lywodraeth Cymru, gan weithio’n agos gyda rhanddeiliaid ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau eu bod yn barod i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sy’n deillio o ddiwygio caffael.

Catherine Lund

Cyfarwyddwr Caffael, Prifysgol De Cymru

Liz Lucas

Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Wayne Welsby

Arweinydd Proffesiynol - Gwasanaethau Masnachol a Chaffael, Cyngor Sir Powys

Karen Wollinger

Mae Karen yn Uwch Reolwr Caffael gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

Helen Rees

Pennaeth Caffael a Chontractio, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Stuart Rees

Department for Energy Security and Net Zero (DESNZ)

Mae Stuart yn weithiwr proffesiynol ac arweinydd profiadol ym maes caffael yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat gan ennill sawl gwobr yn y maes. Mae’n meddu ar wybodaeth ymarferol a manwl ar draws ystod eang o gategorïau gwasanaethau, gweithredu a chyflenwi, gan gynnwys peirianneg sifil, brechlynnau, TGCh, marchnata, archwilio, gweithredu fflyd a gwasanaethau proffesiynol.  Mae’n arbenigo mewn strategaeth fasnachol, trawsnewid a rheoli contractau, yn ogystal â rheoli perthynas â chwsmeriaid a rheoli gwasanaethau.

Mae Stuart wedi gweithio ar draws y sector cyhoeddus i Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaeth Masnachol y Goron, a rolau yn Sefydliad Masnachol y Llywodraeth i’r Swyddfa Gartref a’r Adran Diogelwch Ynni a Sero Net.  Arweiniodd y tîm masnachol a gefnogodd y contractau brechlynnau a gwrthgyrff Covid-19 ar ran y Tasglu Brechlynnau, gyda chontractau a oedd yn werth dros £10bn ac, yn fwy diweddar, ymateb yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net i’r argyfwng ynni, a oedd yn werth dros £43bn.  

Mae ei rolau yn y sector preifat yn cynnwys darparu a rheoli gwasanaethau ymgynghori strategol a gweithredol i gleientiaid yn y sector cyhoeddus ledled y DU, o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i Lywodraeth Cymru, yn ogystal â phenodiadau dros-dro gyda chleientiaid fel Asiantaeth Ofod y Deyrnas Unedig (UKSA). 

Mae Stuart yn rheolwr prosiect cymwys, mae ganddo radd Meistr yn y Gwyddorau (M.Sc.) mewn Rheoli Caffael Strategol ac mae’n aelod siartredig o’r sefydliad siartredig caffael a chyflenwi (MCIPS).