Gwobrau GO Cymru 2023/24
Mae Gwobrau GO Cymru yn cydnabod llwyddiant a chyflawniad pawb sy’n ymwneud â’r gwaith o ddarparu gwasanaethau’r sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector. Mae’r gwobrau hyn yn cael eu beirniadu gan brif ffigurau ym maes caffael yng Nghymru a’r DU, ac mae pawb eisiau eu hennill.
Pam Ymgeisio?

Ysgogi eich tîm
Does dim ffordd well o ysbrydoli eich tîm na thrwy fynychu'r Gwobrau GO. Cewch gyfle i glywed am enghreifftiau gwych eraill o arferion da ac i osod nodau newydd ar gyfer y dyfodol.

Cael cydnabyddiaeth am eich gwaith caled
Os yw eich sefydliad wedi cyflawni gwaith arbennig ym maes caffael, yna mae angen dathlu hynny. Mae Gwobrau GO yn cynnig noson o arddangos llwyddiannau i arweinwyr y diwydiant yn ogystal â’ch cymheiriaid ym maes caffael.

Sefydlu eich hun fel arweinydd diwydiant
Mae ffigyrau blaenllaw o’r sector caffael ledled Cymru’n mynychu Gwobrau GO. Os bydd eich cais yn cyrraedd y rownd derfynol, byddwch yn codi proffil eich sefydliad ac yn rhannu eich llwyddiant.

Gwneud gwahaniaeth go iawn
Mae Gwobrau GO yn tynnu sylw at y gwaith gwerthfawr y mae sefydliadau yn ei wneud, a sut mae caffael yn gwneud gwahaniaeth i bawb. Bydd rhannu eich profiadau, eich taith a’r gwersi a ddysgwyd yn helpu i lunio prosesau caffael i’r dyfodol i bawb.
Bod yn Noddwr
Gwobrau GO yw eich cyfle unigryw chi i ddathlu rhagoriaeth ym maes caffael a rhwydweithio â’r prynwyr a’r cyflenwyr mwyaf dylanwadol o gymuned caffael sector cyhoeddus Cymru.
Mae Gwobrau GO yn gyfle i chi arddangos eich brand gerbron y prynwyr mwyaf dylanwadol yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys llywodraeth leol a chanolog, gofal iechyd, addysg, tai a gwasanaethau brys – gan ddarparu cyfle gwerthfawr i greu neu ddatblygu’r cysylltiadau sydd bwysicaf i’ch sefydliad.