Dathlu eich llwyddiannau ym maes caffael cyhoeddus

Ers 2002, mae Gwobrau Rhagoriaeth ym maes Caffael Cyhoeddus GO wedi arddangos y sefydliadau hynny sy’n arwain y ffordd ym maes caffael cyhoeddus ar draws holl wledydd y DU: Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ogystal â Gwobrau GO Cenedlaethol cronnus y DU.

Mae Gwobrau GO Cymru yn cydnabod llwyddiant a chyflawniad pawb sy’n ymwneud â’r gwaith o ddarparu gwasanaethau’r sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector. Mae’r gwobrau hyn yn cael eu beirniadu gan brif ffigurau ym maes caffael yng Nghymru a’r DU, ac mae pawb eisiau eu hennill.

Mae Cymru wedi arwain y ffordd o ran darparu atebion arloesol a chreadigol i’r heriau lu sy’n wynebu’r sector cyhoeddus. Mae llawer o’r sefydliadau a’r unigolion sy’n cael eu cydnabod yng Ngwobrau GO Cymru wedi cael llwyddiant pellach yng Ngwobrau GO Cenedlaethol y DU.

Wrth i gaffael yn y sector cyhoeddus a’i gadwyn gyflenwi gysylltiedig barhau i esblygu, mae Gwobrau GO Cymru yn parhau i fod yn feincnod hollbwysig a phwerus ar gyfer cynnydd a datblygiad. Gyda chategorïau newydd sy’n adlewyrchu agenda Cymru a’r DU yn ehangach, mae’r Gwobrau hyn yn cydnabod llwyddiannau eithriadol.

Cynhelir Seremoni Gwobrau GO Cymru 2023/24 ar 8 Tachwedd 2023 – felly gwnewch yn siŵr mai dyma’r flwyddyn y bydd eich sefydliad yn cael ei gydnabod am ei gyfraniad!