Gwesty Hilton Caerdydd · Dydd Mercher 11 Tachwedd 2026

Eich brand chi.
Dathliad mwyaf Cymru ym maes caffael.
Noson na ddylech ei cholli.

Buddugoliaethau pwysig, eiliadau pwysig ac ystafell sy’n llawn o aelodau’r gymuned gaffael yng Nghymru. Dyma eich cyfle i fod yn rhan o’r dathliad, o’i ddechrau i’w ddiwedd.

Trefn y noson

Sut y bydd y noson yn mynd rhagddi

O’r eiliad y bydd y gwesteion yn cyrraedd tan y gymeradwyaeth olaf un, mae Gwobrau GO Cymru yn dathlu cyflawni, sgwrsio a chymuned. Mae eich nawdd yn helpu i lywio pob eiliad.


YR AMSER CYRRAEDD

Y cyfle perffaith i groesawu gwesteion, cyflwyno pobl i’w gilydd a sicrhau bod eich brand gerbron uwch-swyddogion sy’n gwneud penderfyniadau.

Y CINIO

Y CINIO

Rhannu byrddau, cael sgyrsiau ystyrlon a mwynhau noson sy’n dod â’r gymuned gaffael ynghyd.

A trophy presentation at the GO Awards Wales Y GWOBRAU

Y GWOBRAU

Mae pob cyhoeddiad, pob enillydd a phob dathliad yn creu eiliad gofiadwy arall y bydd eich brand yn rhan ohoni.

A trophy presentation at the GO Awards Wales

Y DATHLIADAU

Efallai fod y seremoni wobrwyo drosodd, ond nid felly’r rhwydweithio. Dyma’r cyfle perffaith i longyfarch yr enillwyr a pharhau i sgwrsio.

BYDD GAN BOB UN O’R ENILLWYR EU HEILIAD ARBENNIG.
GALL EICH BRAND CHI FOD YN RHAN OHONI.

Pwy fydd yn bresennol

Sector cyhoeddus Cymru, i gyd yn yr un ystafell

Pobl o’r seremoni ddiweddaraf — y gynulleidfa y bydd eich brand ger ei bron.

200+ Cyfranogwyr

Pwy fydd yn bresennol

70%
20%
70%  uwch-reolwyr ac uwch-swyddogion sy’n gwneud penderfyniadau 20%  ar lefel cyfarwyddwyr neu lefel uwch 10%  rolau eraill



Yn bresennol yn y seremoni ddiweddaraf:

Director of Procurement
Chief Executive
Head of Procurement
Deputy Director, Procurement Policy & Strategy
Chief Officer, Asset & Procurement Solutions
Commercial Director
Deputy Director of Finance
Head of Strategic Sourcing
Head of Strategic Accounts
Associate Director of Procurement
Head of Governance & Sustainable Procurement
Director of National Procurement

sefydliadau’r sector cyhoeddus, gan gynnwys:

NHS Wales incl. Betsi Cadwaladr UHB · NHS Wales Shared Services Partnership
Local Government Councils from Cardiff to Wrexham
Welsh Government Central government & directorates
Procurement Consortia NWSSP · Welsh Procurement Alliance
Universities & Colleges incl. Cardiff University
Emergency Services incl. South Wales Police
National Agencies incl. Natural Resources Wales
National Buying Bodies incl. Crown Commercial Service


Mae’r ffigurau am rolau a lefelau swyddi wedi’u seilio ar y teitlau swyddi a oedd ar restr 2025 o gynrychiolwyr.

Pam noddi

Mae’n fwy na noson wobrwyo

A winning team receiving their trophy

DYMA LLE MAE CYMUNED GAFFAEL CYMRU YN DOD YNGHYD

Dyma gyfle prin i gysylltu ag uwch-arweinwyr y sector cyhoeddus, gweithwyr proffesiynol ym maes caffael, y sawl sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a phartneriaid mewn diwydiant, sydd i gyd yn dathlu rhagoriaeth dan yr un to.

A winning team receiving their trophy The winning moment

CYFLE I FOD YN RHAN O’R EILIADAU PWYSICAF

O gyflwyno gwobrau i dynnu lluniau gyda’r enillwyr a brandio’r llwyfan, bydd eich sefydliad yn dod yn rhan o’r eiliadau y bydd pawb yn eu cofio.

A winning team receiving their trophy

PARTNERIAETH SY’N PARA MWY NAG UN NOSON

Caiff eich brand ei arddangos o’r diwrnod cyntaf y gellir gwneud cais, drwy gydol ymgyrch y gwobrau, ar gyfryngau cymdeithasol, ac mewn negeseuon am y digwyddiad a Procurex Wales, ac yna bydd yn ganolbwynt sylw pawb yn seremoni Gwobrau GO ei hun.

Ffyrdd o gymryd rhan

Dewiswch eich eiliad chi

O fod yn brif bartner i noddi gwobrau unigol, mae pob pecyn yn cynnig ffordd unigryw o sicrhau bod eich brand yn ganolog i ddathliad mwyaf Cymru ym maes caffael cyhoeddus.

Noddwr Corfforaethol Premiwm

Eich brand yn rhan annatod o’r holl ddathliad.

  • Hawl i enwi’r categori a ddewiswyd gennych — e.e. “Gwobr Tîm Caffael y Flwyddyn Eich Cwmni”
  • Fideo 20 eiliad wedi’i recordio ymlaen llaw, cyn cyhoeddi enillydd eich categori
  • Wal ddigidol wedi’i brandio yn nerbynfa Gwobrau GO drwy gydol y noson
  • Ynghyd â phopeth yn y pecyn ar gyfer Noddwr Corfforaethol a Noddwr Categori
Ymholi →

Noddwr Corfforaethol

Ymestyn eich presenoldeb y tu hwnt i’r noson wobrwyo.

  • Pecyn arddangosfa 5×3m aur yn Procurex Cymru (sy’n werth £6,000)
  • Slot siarad 20 munud yn Procurex Cymru (sy’n werth £3,000)
  • Brandio corfforaethol ar arwyddion digidol ac arwyddion print yn Procurex Cymru
  • Mynediad neilltuol i Lolfa Gwobrau GO ar gyfer pwysigion sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, yn Procurex Cymru
  • Brandio fel un o noddwyr Gwobrau GO, a amlygir yn adnodd cynllunio’r digwyddiad
  • Ynghyd â phopeth yn y pecyn ar gyfer Noddwr Categori
Ymholi →

Noddwr Categori

Rhowch eich enw i eiliad y bydd pobl yn ei chofio.

  • Cyfle i noddi’r categori a ddewiswyd gennych — brandio cyn y digwyddiad, ar y noson ac ar ôl y digwyddiad
  • Eich uwch-gynrychiolydd yn cyhoeddi enw’r enillydd yn fyw ar y llwyfan
  • Eich logo wedi’i engrafu ar dlws yr enillydd a thlws y sawl sy’n cael canmoliaeth uchel
  • Tocynnau i’r cinio tri chwrs a’r seremoni, a chyfle i eistedd gyda’r beirniaid neu’r sawl sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol
  • Logo ar y sgrin drwy gydol y seremoni gyflwyno, a logo a bywgraffiad yn rhaglen y digwyddiad
  • Pecyn o ran y cyfryngau — cyfweliad ar y noson a thynnu lluniau o’ch tîm
  • Eich ymwneud yn cael ei hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol
Ymholi →


Ar y noson ac wedyn

Noddwr Lolfa Ragoriaeth Gwobrau GO

  • Logo a phroffil 50 gair gyda dolen gyswllt ar dudalennau Gwobrau GO a Procurex Cymru ar gyfer noddwyr
  • Pedair sedd yn y seremoni wobrwyo
  • Deunydd hyrwyddo a brandio yn Lolfa Ragoriaeth Gwobrau GO yn Procurex Cymru
  • Brandio ar adnodd cynllunio ar y dydd Procurex Cymru
  • Negeseuon pwrpasol ar LinkedIn yn cadarnhau eich cyfranogiad
  • Logo ar gyflwyniad clyweledol y seremoni wobrwyo
  • Cydnabyddiaeth mewn deunyddiau ar ôl y digwyddiad, mewn datganiadau i’r wasg ac ar gyfryngau cymdeithasol
Ymholi →

Noddwr Bwrdd

  • Cyfle i hyrwyddo cyn y digwyddiad ar y wefan, mewn negeseuon ebost ac ar gyfryngau cymdeithasol
  • Pedair sedd yn y seremoni wobrwyo
  • Brandio ar y cynllun eistedd ac ar rifau’r byrddau
  • Eitem hyrwyddo ar bob bwrdd (a ddarperir gennych chi)
  • Logo ar gyflwyniad clyweledol y seremoni wobrwyo
  • Negeseuon pwrpasol ar LinkedIn yn cadarnhau eich cyfranogiad
  • Cydnabyddiaeth mewn deunyddiau ar ôl y digwyddiad, mewn datganiadau i’r wasg ac ar gyfryngau cymdeithasol
Ymholi →

Noddwr Derbyniad â Diodydd cyn y Cinio

  • Cyfle i hyrwyddo cyn y digwyddiad ar y wefan, mewn negeseuon ebost ac ar gyfryngau cymdeithasol
  • Dwy sedd yn y seremoni wobrwyo
  • Brandio corfforaethol ym mhob rhan o ardal y derbyniad â diodydd
  • Logo ar gyflwyniad clyweledol y seremoni wobrwyo
  • Negeseuon pwrpasol ar LinkedIn yn cadarnhau eich cyfranogiad
  • Cydnabyddiaeth mewn deunyddiau ar ôl y digwyddiad, mewn datganiadau i’r wasg ac ar gyfryngau cymdeithasol
Ymholi →

Noddwr y Rhaglen

  • Cyfle i hyrwyddo cyn y digwyddiad ar y wefan, mewn negeseuon ebost ac ar gyfryngau cymdeithasol
  • Dwy sedd yn y seremoni wobrwyo
  • Brandio ar raglen a bwydlen y noson
  • Hysbyseb hanner tudalen yn y rhaglen swyddogol, a roddir i bob gwestai
  • Logo ar gyflwyniad clyweledol y seremoni wobrwyo
  • Negeseuon pwrpasol ar LinkedIn yn cadarnhau eich cyfranogiad
  • Cydnabyddiaeth mewn deunyddiau ar ôl y digwyddiad, mewn datganiadau i’r wasg ac ar gyfryngau cymdeithasol
Ymholi →

Gadewch i ni ddechrau sgwrsio

P’un a ydych yn barod i sicrhau pecyn noddi neu’n awyddus i archwilio’r cyfleoedd sydd ar gael, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Cysylltwch â’n tîm ac fe wnawn eich helpu i ddod o hyd i’r bartneriaeth sy’n iawn i’ch sefydliad chi.


Gwesty Hilton Caerdydd · Dydd Mercher 11 Tachwedd 2026