Gwobr Caffael Cynaliadwy

Bwriad y categori hwn yw cydnabod y sefydliadau hynny sy’n arwain y ffordd o ran mynd i’r afael â materion fel newid yn yr hinsawdd drwy eu gweithgarwch caffael cynaliadwy.

Gall ymgeiswyr gynnwys pob math o weithgarwch, fel ailgylchu, lleihau carbon, cynyddu cyfleoedd cyflogaeth, lleihau gwastraff, hyfforddi neu ddarparu manteision amgylcheddol, i enwi dim ond ychydig o fentrau.

Mae’r ffocws ar sut mae sefydliadau wedi datblygu eu polisïau a’u prosesau er mwyn rheoli camau allweddol cyflawni caffael a sbarduno arloesedd, creadigrwydd a chynnydd gwirioneddol wrth gyflawni eu contractau.

Mae’n agored i: Sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a sefydliadau preifat/gwirfoddol o’r tu mewn neu’r tu allan i Gymru gyda chymorth ysgrifenedig gan yr awdurdod sy’n eu noddi ‒ er enghraifft, datganiad ysgrifenedig gydag enw a swydd y noddwr, naill ai yn y cais neu fel atodiad.

Amserlen: Rhaid i gais Gwobrau GO yn y categori hwn gyfeirio at waith a wnaed yn ystod y cyfnod rhwng mis Ionawr 2022 a mis Mehefin 2023.

Cwestiynau Mynediad

Cefndir
Disgrifiwch y dull cynaliadwy y mae eich sefydliad wedi’i gymryd drwy’r gweithgarwch caffael, gan gynnwys, lle bo’n briodol, o fewn y broses gaffael ei hun. Rhowch fanylion pam y dewiswyd y dull hwn, y nodau a’r elfennau i’w cyflawni a oedd yn ddymunol, a’r ffactorau llwyddiant allweddol ar gyfer cyflawni’n llwyddiannus.

Disgrifiwch y dull cynaliadwy y mae eich sefydliad wedi’i gymryd drwy’r gweithgarwch caffael, gan gynnwys, lle bo’n briodol, o fewn y broses gaffael ei hun. Rhowch fanylion pam y dewiswyd y dull hwn, y nodau a’r elfennau i’w cyflawni a oedd yn ddymunol, a’r ffactorau llwyddiant allweddol ar gyfer cyflawni’n llwyddiannus.

Pa agweddau ar y dull sydd wedi bod yn arbennig o arloesol, creadigol neu flaengar (gan gadw o fewn ffiniau’r ddeddfwriaeth gaffael)?

Pa lefel o ymgysylltu a gafwyd â phartïon yn y sefydliad a phartïon allanol i sicrhau bod y dull wedi’i gwmpasu’n drylwyr, ac wedi’i ddylunio gyda golwg ar wella canlyniadau cynaliadwy?

Pa heriau penodol a wynebwyd wrth ddefnyddio’r dull caffael a sut cafodd y rhain eu goresgyn?

Beth oedd canlyniadau disgwyliedig y fenter gaffael a pha lwyddiannau sydd wedi’u cyflawni hyd yma? Rhowch dystiolaeth o dargedau penodol a osodwyd, adborth a gafwyd a pherfformiad neu fanteision mesuradwy eraill a gyflawnwyd

A yw eich sefydliad wedi lledaenu manteision y fenter hon i sefydliadau neu randdeiliaid eraill, a beth oedd effaith hynny? Pa wersi sydd wedi’u dysgu y gellir eu rhannu o ganlyniad i'r ymarfer?