Gwobr Datblygu Amrywiaeth Cyflenwyr

Mae’r categori newydd hwn yn cydnabod ac yn dathlu gwaith sefydliadau sy’n croesawu egwyddorion amrywiaeth a chynhwysiant cyflenwyr, ac yn gweithio i’w hymgorffori yng ngwead eu gweithgarwch caffael.

Gall ymgeiswyr ddewis canolbwyntio ar brosiect neu fenter benodol, neu ar y dull cyffredinol maen nhw’n ei ddefnyddio ar draws eu gweithgarwch caffael.

Bwriad y wobr hon yw arddangos cyrff yn y sector cyhoeddus sydd wedi ymgysylltu’n llwyddiannus â phob math o gyflenwr, gan helpu nid yn unig i greu cymdeithas decach, ond hefyd i ryddhau talent ac arloesedd sy’n creu gwasanaethau cyhoeddus gwell.

Mae’n agored i: Sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru

Amserlen: Rhaid i gais Gwobrau GO yn y categori hwn gyfeirio at waith a wnaed yn ystod y cyfnod rhwng mis Ionawr 2022 a mis Mehefin 2023.

Cwestiynau Mynediad

Cefndir

Disgrifiwch sut gwnaeth eich sefydliad gynnwys cyflenwyr amrywiol a’u rheoli’n effeithiol fel rhan o’ch proses gaffael. Rhowch fanylion pam y dewiswyd y dull hwn, y nodau a’r elfennau i’w cyflawni a oedd yn ddymunol, a’r ffactorau llwyddiant allweddol ar gyfer cyflawni’n llwyddiannus.

Mae sicrhau bod cyflenwyr amrywiol yn cael eu cynnwys a’u rheoli’n effeithiol fel rhan o’r broses cyrchu a chaffael yn golygu mwy na’r peth iawn i’w wneud – mae hefyd yn fuddiol iawn i sefydliadau. Er bod amrywiaeth cyflenwyr yn gallu arwain at arbedion cost ac effeithlonrwydd, nid yw llawer o sefydliadau’n gwybod ble i ddechrau adeiladu cadwyn gyflenwi amrywiol, ac nid ydynt chwaith yn gwybod sut beth yw cadwyn gyflenwi amrywiol dda.

Esboniwch y dull gweithredu y mae eich sefydliad wedi’i ddefnyddio i wreiddio amrywiaeth cyflenwyr yn y broses gaffael a sut roedd hyn wedi effeithio ar bennu’r llwybr gorau i’r farchnad, a’r canlyniadau y gellid eu cyflawni

Pa lefel o ymgysylltu â chyflenwyr a gynhaliwyd i sicrhau bod y fenter yn cael ei chwmpasu a’i dylunio’n drylwyr gyda golwg ar amrywiaeth cyflenwyr?

Disgrifiwch unrhyw rwystrau i lwyddiant y daethoch ar eu traws, boed hynny cyn ymgysylltu â’r farchnad, yn ystod yr ymarfer caffael neu wrth weithredu’r contract, ac egluro sut cafodd y rhain eu goresgyn.

Eglurwch y canlyniadau sydd wedi’u cyflawni hyd yma, ers dechrau’r fenter hon, ac a yw’r rhain yn cyd-fynd â’r hyn a ragwelwyd ar y dechrau. Rhowch dystiolaeth o dargedau penodol, cerrig milltir allweddol, adborth a gafwyd a dangosyddion perfformiad, lefelau gwasanaeth neu fanteision mesuradwy eraill a gyflawnwyd. (Rhowch dystiolaeth empirig i gefnogi eich ateb)

Ym mha feysydd y mae’r contract wedi rhagori ar ddisgwyliadau’r awdurdod, rhanddeiliaid a/neu ddefnyddwyr, gan gyflawni mwy na’r gofyniad craidd. (Rhowch dystiolaeth i gefnogi hyn)

O ganlyniad i’r broses gaffael hon, a yw manteision amrywiaeth cyflenwyr wedi’u rhannu’n fewnol, ar draws eich sefydliad ac â sefydliadau eraill i helpu i siapio prosesau caffael yn y dyfodol?