Newydd gyhoeddi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau - dydd Mercher 13 Medi 2023

Dyddiad y Digwyddiad - 8fed Tachwedd 2023, Gwesty Mercure Holland House Caerdydd

Gwobrau GO yw prif wobrau rhagoriaeth ym maes caffael cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n dathlu’r llwyddiannau gorau ym maes caffael gan sefydliadau’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yng Nghymru.

Ar y cyd â​

Gwobrau GO Cymru 2023/24

Mae Gwobrau GO Cymru yn cydnabod llwyddiant a chyflawniad pawb sy’n ymwneud â’r gwaith o ddarparu gwasanaethau’r sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector. Mae’r gwobrau hyn yn cael eu beirniadu gan brif ffigurau ym maes caffael yng Nghymru a’r DU, ac mae pawb eisiau eu hennill.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau eleni yw 5pm, 26 Medi.

Cofrestrwch heddiw i gael ein pecyn ymgeisio unigryw newydd sbon gydag awgrymiadau gwych, dyddiadau allweddol a’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddechrau eich cais ar gyfer Gwobrau GO!

Pam Ymgeisio?

CYMELL EICH TÎM

Does dim ffordd well o ysbrydoli eich tîm na thrwy fynychu Gwobrau GO. Cewch gyfle i glywed am enghreifftiau gwych eraill o arferion da ac i osod nodau newydd ar gyfer y dyfodol.


CAEL CYDNABYDDIAETH AM EICH GWAITH CALED

Os yw eich sefydliad wedi cyflawni gwaith arbennig ym maes caffael, yna mae angen dathlu hynny. Mae Gwobrau GO yn cynnig noson o arddangos llwyddiannau i arweinwyr y diwydiant yn ogystal â’ch cymheiriaid ym maes caffael.


SEFYDLU EICH HUN YN ARWEINYDD DIWYDIANT

Mae ffigurau blaenllaw o’r sector caffael ledled y DU yn mynychu Gwobrau GO. Os bydd eich cais yn cyrraedd y rownd derfynol, byddwch yn codi proffil eich sefydliad ac yn rhannu eich llwyddiant. ‏‏‎ ‎‏‏

GWNEUD GWAHANIAETH GO IAWN

Mae Gwobrau GO yn tynnu sylw at y gwaith gwerthfawr y mae sefydliadau yn ei wneud, a sut mae caffael yn gwneud gwahaniaeth i bawb. Bydd rhannu eich profiadau, eich taith a’r gwersi a ddysgwyd yn helpu i lunio prosesau caffael i’r dyfodol i bawb.

Ein Noddwyr

Categorïau Newydd ar gyfer 2023/24

Gwobr Caffael Cynaliadwy

Gwobr Contractwr y Flwyddyn

Gwobr Datblygu Amrywiaeth Cyflenwyr

Dod yn Noddwr

Gwobrau GO yw eich cyfle unigryw chi i ddathlu rhagoriaeth ym maes caffael a rhwydweithio â’r prynwyr a’r cyflenwyr mwyaf dylanwadol o gymuned caffael sector cyhoeddus y DU.

 

Mae Gwobrau GO yn gyfle i chi arddangos eich brand gerbron y prynwyr mwyaf dylanwadol yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys llywodraeth leol a chanolog, gofal iechyd, addysg, tai a gwasanaethau brys – gan ddarparu cyfle gwerthfawr i greu neu ddatblygu’r cysylltiadau sydd bwysicaf i’ch sefydliad.