Gwobr Contractwr y Flwyddyn

Bwriad y categori newydd hwn yw rhoi cyfle i’r sector cyhoeddus gydnabod y sefydliad (sector preifat neu drydydd sector) sydd, yn eu barn nhw, wedi bod y contractwr mwyaf rhagorol o ran cyflawni contractau, ond hefyd o ran sut maen nhw wedi rhagori ar ddisgwyliadau’r cwsmer.

Dim ond cyrff yn y sector cyhoeddus sy’n gallu cyflwyno ceisiadau a bydd y beirniaid yn chwilio am dystiolaeth ynghylch pam y dylid ystyried y contractwr a enwebir, boed hynny drwy gyflwyno dull arloesol, eu dull o fynd i’r afael â materion cynaliadwy, cynlluniau i gynnwys amrywiaeth yn eu cadwyn gyflenwi, eu hymgysylltiad â rhanddeiliaid a defnyddwyr neu unrhyw reswm arall maen nhw’n dymuno ei ystyried.

Bwriad y dyfarniad hwn yw cydnabod cyflawniad rhagorol gan y gymuned contractio a bydd yn canolbwyntio ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni, ni waeth beth yw maint y contract neu’r contractwr.

Mae’n agored i: Sefydliadau yn y sector preifat yng Nghymru sydd wedi cael eu henwebu gan awdurdod contractio.

Amserlen: Rhaid i gais Gwobrau GO yn y categori hwn gyfeirio at waith a wnaed yn ystod y cyfnod rhwng mis Ionawr 2022 a mis Mehefin 2023.

Cwestiynau Mynediad

Cefndir
Disgrifiwch yr ymarfer caffael a gynhaliwyd ac i bwy mae’r contract yn cael ei gyflenwi. Rhowch fanylion pam y gwnaed y caffael, y nodau a’r elfennau i’w cyflawni a oedd yn ddymunol, a’r canlyniadau a gyflawnwyd ac a arweiniodd at enwebu’r contractwr ar gyfer y dyfarniad hwn.

Ym mha feysydd y mae’r contractwr wedi rhagori ar ddisgwyliadau’r awdurdod, rhanddeiliaid a/neu ddefnyddwyr, er enghraifft drwy fentrau arloesi neu fentrau cymdeithasol/amgylcheddol, gan gyflawni mwy na’r gofyniad craidd. (Rhowch dystiolaeth i gefnogi hyn)

Pa agweddau ar ddull y contractwr sydd wedi bod yn arbennig o arloesol, creadigol neu flaengar (gan gadw o fewn ffiniau’r ddeddfwriaeth gaffael)?

Eglurwch y canlyniadau sydd wedi’u cyflawni hyd yma, ers dechrau’r contract ac egluro a yw’r rhain yn rhagori’r hyn a ragwelwyd ar y dechrau. (Rhowch dystiolaeth empirig i gefnogi eich ateb)

Disgrifiwch unrhyw rwystrau i lwyddiant y daethpwyd ar eu traws, boed hynny yn ystod yr ymarfer caffael neu wrth weithredu’r contract, ac egluro sut cafodd y rhain eu goresgyn.

A yw’r canlyniadau/manteision sy’n deillio o weithredoedd y contractwr yn y broses gaffael hon wedi cael eu rhannu’n fewnol, ar draws eich sefydliad a gyda sefydliadau eraill i helpu i siapio caffael yn y dyfodol?