Gwobrau GO Cymru 2024/25

Mae Gwobrau GO Cymru, yn Marriott Caerdydd,  yn cydnabod llwyddiant a chyflawniad pawb sy’n ymwneud â’r gwaith o ddarparu gwasanaethau’r sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector. Mae’r gwobrau hyn yn cael eu beirniadu gan brif ffigurau ym maes caffael yng Nghymru a’r DU, ac mae pawb eisiau eu hennill.

Pam Ymgeisio?

Gwobrwyo eich Tîm

Gwobrau GO yw’r ffordd berffaith o wobrwyo eich tîm caffael am eu gwaith eithriadol. Dathlwch eich llwyddiant chi a llwyddiant eich cyfoedion mewn steil yn ein cinio gala tei du ffantastig!

Ennill Cydnabyddiaeth

Rydyn ni bob amser yn chwilio am lwyddiannau caffael eithriadol gan unigolion a thimau. Os ydych chi’n meddwl ei bod hi’n werth cydnabod a dathlu llwyddiannau eich sefydliad chi, yna rydyn ni eisiau clywed am y llwyddiannau hynny!

Bod yn Arweinydd Diwydiant

Mae llawer o’r ffigurau caffael blaenllaw o bob cwr o Gymru a’r tu hwnt yn beirniadu ac yn mynd i’r Gwobrau GO. P’un a ydych chi’n enillydd neu wedi cyrraedd y rownd derfynol, bydd y Gwobrau’n eich pennu chi’n arweinydd yn y diwydiant caffael!

Gwneud gwahaniaeth gwirioneddol:

Mae Gwobrau GO yn tynnu sylw at y gwaith gwerthfawr y mae sefydliadau yn ei wneud, a sut gall caffael wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bawb. Rhannwch eich profiadau a dysgu gan eich cyfoedion wrth i ni helpu i lunio dyfodol caffael.

Beirniaid Gwobrau GO Cymru 2024/25

Edrych i fynd i mewn? Cymerwch eiliad i lawrlwytho ein canllaw cyflwyno isod

Bod yn Noddwr

Gwobrau GO yw eich cyfle unigryw chi i ddathlu rhagoriaeth ym maes caffael a rhwydweithio â’r prynwyr a’r cyflenwyr mwyaf dylanwadol o gymuned caffael sector cyhoeddus Cymru.

Mae Gwobrau GO yn gyfle i chi arddangos eich brand gerbron y prynwyr mwyaf dylanwadol yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys llywodraeth leol a chanolog, gofal iechyd, addysg, tai a gwasanaethau brys – gan ddarparu cyfle gwerthfawr i greu neu ddatblygu’r cysylltiadau sydd bwysicaf i’ch sefydliad.

Diolch i Noddwyr Digwyddiad Gwobrau GO Cymru 2024/25