Gwobr Trawsnewid Caffael drwy Dechnoleg
Yn newydd ar gyfer 2025/26!
Mae’r categori hwn yn cydnabod yr effaith y mae technoleg – gan gynnwys technoleg ddigidol, data a deallusrwydd artiffisial – yn ei chael ar gaffael cyhoeddus. Mae’n cydnabod sefydliadau neu brosiectau sydd wedi llwyddo i integreiddio technoleg yn eu dull o weithredu, gan hybu effeithlonrwydd a chanlyniadau gwell.
Sector: Y sector cyhoeddus a y sector preifat
Amserlen: Rhaid bod cais Gwobrau GO yn y categori hwn yn ymdrin â gweithgarwch yn ystod y cyfnod rhwng mis Ionawr 2024 a mis Mehefin 2025.
Cwestiynau Mynediad
Cefndir
Rhowch fanylion am gefndir y sefydliad sy’n cyflwyno cais ar gyfer y categori hwn.

Beth oedd y brif her neu’r prif gyfle a ysgogodd eich menter trawsnewid caffael?
Disgrifiwch y cyd-destun, gan gynnwys y materion penodol yr oeddech yn ceisio mynd i’r afael â nhw. Tynnwch sylw at y ffactorau a sbardunodd y newid, a’r nodau strategol a oedd yn sail i’r fenter.

Sut y gwnaethoch ymgorffori technolegau digidol neu ddeallusrwydd artiffisial yn eich dull o drawsnewid caffael?
Esboniwch rôl adnoddau digidol, platfformau neu ddeallusrwydd artiffisial yn eich menter. Nodwch sut y cafodd y technolegau dan sylw eu dewis, eu rhoi ar waith a’u hintegreiddio mewn prosesau caffael.

Pa arferion neu atebion arloesol y gwnaethoch eu cyflwyno, a sut y maent yn wahanol i ddulliau gweithredu traddodiadol?
Disgrifiwch elfennau newydd eich menter. Gallai hynny gynnwys methodolegau newydd, partneriaethau newydd neu fodelau newydd ar gyfer darparu gwasanaethau, sy’n dangos creadigrwydd a blaengaredd.

Sut y gwnaethoch gynnwys a grymuso pobl drwy gydol y broses drawsnewid?
Trafodwch sut y gwnaethoch gynnwys rhanddeiliaid, datblygu gallu a meithrin diwylliant o arloesi. Dylech gynnwys enghreifftiau o gydweithio, hyfforddiant neu arweinyddiaeth a wnaeth gefnogi’r newid.

Pa arbedion effeithlonrwydd neu ganlyniadau mesuradwy sydd wedi’u cyflawni o ganlyniad i’ch menter?
Darparwch dystiolaeth o effaith, megis y costau a arbedwyd, yr amser a arbedwyd, gwaith ymgysylltu gwell â chyflenwyr, neu wasanaethau’n cael eu darparu’n well. Defnyddiwch ddata, os oes modd, i ategu eich honiadau.

Sut y mae eich menter trawsnewid yn gynaliadwy, a sut y gellir ei gweithredu ar raddfa wahanol er mwyn mynd i’r afael â heriau yn y dyfodol ym maes caffael?
Esboniwch sut y mae eich dull o weithredu wedi’i lunio i sicrhau llwyddiant hirdymor. Tynnwch sylw at y gallu i addasu, y gwersi a ddysgwyd a sut y gall eich menter gael ei hefelychu neu’i hehangu ar draws meysydd eraill. Sut yr ydych wedi rhannu eich llwyddiant?