Categori Gwobr

GWOBR GWEITHWYR CAFFAEL YFORY

Yn cydnabod gweithwyr proffesiynol ym maes caffael sy'n dod i'r amlwg ac sydd eisoes yn cael effaith gadarnhaol ac yn dangos addewid eithriadol ar gyfer y dyfodol.

YMGEISIO AM Y GWOBRAU
Trosolwg o'r Wobr

Mae’r wobr hon yn dathlu unigolion sydd newydd ddechrau ar yrfa ym maes caffael cyhoeddus – p’un a ydynt wedi ymuno drwy gynllun i raddedigion, prentisiaeth, penderfyniad i newid gyrfa, neu unrhyw lwybr arall. Mae’n cydnabod y sawl sy’n dangos addewid gwirioneddol, brwdfrydedd ac effaith, ac sydd eisoes yn dechrau dylanwadu ar sut beth yw caffael da. Nid yw’r beirniaid yn chwilio am berffeithrwydd na sglein: maent yn chwilio am ddilysrwydd, chwilfrydedd, a’r math o gyfraniad sy’n awgrymu dyfodol disglair yn y proffesiwn.

Cymhwystra: Mae’n agored i unigolion sydd newydd ddechrau ar yrfa ym maes caffael cyhoeddus, gan gynnwys y sawl sydd wedi ymuno drwy Brentisiaethau Modern, Rhaglenni i Raddedigion a Chynlluniau Cyflogadwyedd neu’r sawl sydd wedi penderfynu newid gyrfa.

Cyfnod cymwys: Mis Ionawr 2025 i fis Mawrth 2026

Cwestiynau'r Cais
1

Beth fu cyd-destun gwaith yr enwebai yn ystod y cyfnod cymhwyso, a beth sydd wedi eu hysgogi?

2

Sut mae'r enwebai wedi meithrin perthnasoedd, datblygu eu sgiliau a thyfu yn eu rôl?

3

Pa effaith mae'r enwebai wedi'i chael, a pha dystiolaeth sydd fod eu cyfraniad wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol?

4

Beth mae'r enwebai wedi'i ddysgu yn ystod y cyfnod hwn, a sut mae hynny wedi llywio'r ffordd y maent yn gweithio?

5

Dywedwch wrthym am daith yr enwebai i mewn i gaffael yn y sector cyhoeddus. Beth ddaeth â nhw i'r proffesiwn, a beth sydd wedi sefyll allan iddynt hyd yma?

6

Beth mae'r enwebai yn ei ddysgu, sut maent yn datblygu, ac i ble maent yn gobeithio y bydd eu gyrfa ym maes caffael yn mynd â nhw?

🏆

Yn barod i gyflwyno cais?

Mae'r ceisiadau bellach ar agor

CYFLWYNWCH GAIS