Gwobr Contractwr y Flwyddyn
Bwriad y categori newydd hwn yw rhoi cyfle i’r sector cyhoeddus gydnabod y sefydliad (sector preifat neu drydydd sector) sydd, yn eu barn nhw, wedi bod y contractwr mwyaf rhagorol o ran cyflawni contractau, ond hefyd o ran sut maen nhw wedi rhagori ar ddisgwyliadau’r cwsmer.
Dim ond cyrff yn y sector cyhoeddus sy’n gallu cyflwyno ceisiadau a bydd y beirniaid yn chwilio am dystiolaeth ynghylch pam y dylid ystyried y contractwr a enwebir, boed hynny drwy gyflwyno dull arloesol, eu dull o fynd i’r afael â materion cynaliadwy, cynlluniau i gynnwys amrywiaeth yn eu cadwyn gyflenwi, eu hymgysylltiad â rhanddeiliaid a defnyddwyr neu unrhyw reswm arall maen nhw’n dymuno ei ystyried.
Bwriad y dyfarniad hwn yw cydnabod cyflawniad rhagorol gan y gymuned contractio a bydd yn canolbwyntio ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni, ni waeth beth yw maint y contract neu’r contractwr.
Mae’n agored i: Sefydliadau yn y sector preifat yng Nghymru sydd wedi cael eu henwebu gan awdurdod contractio.
Amserlen: Rhaid i gais Gwobrau GO yn y categori hwn gyfeirio at waith a wnaed yn ystod y cyfnod rhwng mis Gorffennaf 2022 a mis Ionawr 2024..
Cwestiynau Mynediad
Cefndir
Disgrifiwch yr ymarfer caffael a gynhaliwyd ac i bwy mae’r contract yn cael ei gyflenwi. Rhowch fanylion pam y gwnaed y caffael, y nodau a’r elfennau i’w cyflawni a oedd yn ddymunol, a’r canlyniadau a gyflawnwyd ac a arweiniodd at enwebu’r contractwr ar gyfer y dyfarniad hwn.