Gwobr Menter Orau ym maes Caffael Sero Net

Mae’r categori hwn yn cydnabod y rôl y mae caffael yn ei chwarae o ran lleihau effaith amgylcheddol gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n canolbwyntio ar brosiectau, mentrau neu ddulliau gweithredu trosfwaol sy’n gwneud yn siŵr bod gwariant cyhoeddus yn sicrhau gwerth ac yn hybu egwyddorion cynaliadwyedd a Sero Net.

Sector: Y sector cyhoeddus.

Amserlen: Rhaid bod cais Gwobrau GO yn y categori hwn yn ymdrin â gweithgarwch yn ystod y cyfnod rhwng mis Ionawr 2024 a mis Mehefin 2025.

Cwestiynau Mynediad

Cefndir

Rhowch fanylion am gefndir y sefydliad sy’n cyflwyno cais ar gyfer y categori hwn. (Ni fydd yr ateb hwn yn cael ei sgorio)

Heriau a Goresgyn Rhwystrau:

Beth oedd y prif heriau wrth ymgorffori egwyddorion cynaliadwyedd a Sero Net yn eich gweithgareddau caffael? Sut y gwnaethoch oresgyn yr heriau, a pha effaith y mae hynny wedi’i chael ar wasanaethau cyhoeddus a chymunedau?

Targedau Sero Net a Chyflawniadau:

Pa dargedau Sero Net y mae eich sefydliad wedi’u gosod yn ei strategaeth gaffael? Rhowch enghreifftiau o fentrau sydd wedi llwyddo i leihau allyriadau a gwella cynaliadwyedd amgylcheddol.

Arloesi ac Arfer Gorau ym maes Caffael:

Sut y mae eich dull o gaffael wedi croesawu arloesi er mwyn gwella cynaliadwyedd? Tynnwch sylw at unrhyw dechnegau, technoleg neu strategaethau arloesol sydd wedi cyfrannu i gadwynau cyflenwi a phenderfyniadau prynu sy’n fwy cynaliadwy.

Effaith a Chanlyniadau Mesuradwy:

Pa ganlyniadau gwirioneddol sy’n dangos llwyddiant eich menter Sero Net? Rhannwch fetrigau allweddol, astudiaethau achos neu dystlythyrau sy’n dangos sut y mae eich gweithgareddau caffael wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl a chymunedau.

Cydweithio ac Ymgysylltu â Chadwyn Gyflenwi:

Sut yr ydych wedi gweithio gyda chyflenwyr a rhanddeiliaid i hyrwyddo arferion cynaliadwy? Rhowch enghreifftiau o sut y mae partneriaethau wedi dylanwadu ar ganlyniadau amgylcheddol gwell ac wedi ysgogi cynnydd ar y cyd tuag at gyflawni nodau Sero Net.

Cynaliadwyedd yn y Dyfodol a Gwaddol:

Pa gamau y mae eich sefydliad yn eu cymryd i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor ym maes caffael? Sut y byddwch yn parhau i wella cyfrifoldeb amgylcheddol, meithrin cydnerthedd a hybu amcanion Sero Net yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod?