Gwobr Rheoli Contractau a Chyflenwyr

Ar adeg pan mae cadwyni cyflenwi yn profi’r newid mwyaf mewn degawdau – ar ôl Brexit a’r pandemig ac yn ystod cyfnod lle mae costau’n cynyddu’n gyflym – mae rheoli contractau a chyflenwyr yn glyfar yn bwysicach fyth.

Nid yw caffael gwych yn dod i ben ar ôl llofnodi contract. Mewn byd sy’n newid yn gyflym, y cysylltiadau gorau yw’r rheini sy’n gallu croesawu newid ac sy’n datblygu er budd pawb dan sylw – gan gynnwys y rhai y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu ar eu cyfer.

Mae sefydliadau sy’n gallu meithrin ymddiriedaeth ac ymgysylltiad cadarnhaol yn fwy tebygol o ddod o hyd i ffyrdd newydd a gwell o weithio, gan gynnig gwelliannau ac arloesedd yn hytrach na chael gwared arnynt. 

Mae’r categori hwn yn cydnabod sefydliadau sy’n dangos arfer gorau yn y ffordd y maent yn rheoli eu contractau. Gall ceisiadau gyfeirio at brosiectau neu gynlluniau unigol sy’n cefnogi eu hachos neu sy’n canolbwyntio ar y buddiannau cyffredinol sy’n deillio o’r berthynas. Mae angen tystiolaeth o sut mae’r dull gweithredu hwn wedi arwain at ddarparu gwasanaethau’n well ac yn fwy effeithiol neu sut mae wedi helpu i oresgyn heriau i gadarnhau unrhyw fuddiannau a hawlir. Yn yr un modd, gellir dangos enghreifftiau lle mae cyflenwr wedi mynd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir dan gontract – boed hynny drwy ddarparu gwerth ychwanegol neu yn ei ymateb i angen mawr.

Mae’n agored i: Sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru

Amserlen: Rhaid i gais Gwobrau GO yn y categori hwn gyfeirio at waith a wnaed yn ystod y cyfnod rhwng mis Gorffennaf 2022 a mis Ionawr 2024.

Cwestiynau Mynediad

Cefndir
Disgrifiwch y dull rheoli contractau a chyflenwyr y mae eich sefydliad wedi’i roi ar waith ar draws yr ymarfer caffael. Rhowch fanylion pam y dewiswyd y dull hwn, a’r nodau a’r elfennau i’w cyflawni a oedd yn ddymunol. (Ni fydd yr ateb hwn yn cael ei sgorio)

Esboniwch lefel yr ymgysylltu a wnaed â’r partïon yn eich sefydliad a phartïon allanol (contractwyr, is-gontractwyr, y gadwyn gyflenwi ac ati) i sicrhau bod y gofynion rheoli contractau a chyflenwyr yn cael eu deall yn llawn cyn dyfarnu’r contract.

Disgrifiwch unrhyw rwystrau y daethoch ar eu traws o ran rheoli contract yn llwyddiannus, boed hynny’n fewnol, gan gynigwyr yn ystod yr ymarfer caffael neu wrth weithredu'r contract, ac egluro sut cafodd y rhain eu goresgyn.

Eglurwch pa agweddau ar eich menter rheoli contractau a chyflenwyr sy’n arbennig o arloesol neu flaengar a sut mae hyn wedi effeithio ar y gwaith o gyflawni contractau. Rhowch dystiolaeth o dargedau penodol, cerrig milltir allweddol, adborth a gafwyd a dangosyddion perfformiad, lefelau gwasanaeth neu fanteision mesuradwy eraill a gyflawnwyd. (Rhowch dystiolaeth empirig i gefnogi eich ateb)

Disgrifiwch unrhyw fanteision gwelliant parhaus sydd wedi cael eu cyflawni’n uniongyrchol o ganlyniad i ddull y sefydliad o reoli contractau a chyflenwyr. Rhowch enghraifft o un contract ac esbonio pa ganlyniadau sydd wedi’u cyflawni hyd yma, ers dechrau’r contract.

Ym mha feysydd y mae rheoli contractau a chyflenwyr wedi rhagori ar ddisgwyliadau’r awdurdod, rhanddeiliaid a/neu ddefnyddwyr, gan gyflawni gwell canlyniadau na’r gofyniad craidd?