Y Seremoni

Yn ôl yng Ngwesty’r Marriott, Caerdydd, bydd Seremoni Gwobrau GO Cymru yn cael ei chynnal ar 5 Tachwedd 2024. Bydd ein seremoni wobrwyo grand yn dathlu’r llwyddiannau gorau ym maes caffael gan sefydliadau’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yng Nghymru.

Bydd y cinio gala mawreddog ar gyfer y gwobrau yn cynnwys amrywiaeth o adloniant ac wrth gwrs, yr elfen bwysicaf – y cyhoeddiad hir-ddisgwyliedig o enillwyr Gwobrau GO Cymru 24/25

 

Derbyniad Diodydd
18:30-19:00

Gwobrau a Chinio
19:00-23:00

Cerbydau
00:00

Gwesteiwr yr Hwyr

Nia Parry

Mae Nia yn gyflwynydd radio a theledu profiadol sydd wedi cyflwyno sawl cyfre’ ar S4C, yn ogystal â nifer o gynadleddau a seremonïau gwobrwyo.

Mae ei chefndir mewn Addysg a bu’n dysgu Saesneg yn Istanbul am gyfnod cyn dysgu Cymraeg fel ail iaith i oedolion.

Mae Nia hefyd yn awdur, yn sgriptiwr ac yn olygydd llyfrau. Mae’n eiriolwr dros Addysg Oedolion ac yn llysgennad Dysgu a Gwaith, Llywydd Dysgu Oedolion Cymru ac yn Aelod Bwrdd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae Nia yn byw yng Ngogledd Cymru gyda’i gŵr a dau o blant ac mae hi’n mwynhau mynd â’r ci am dro, astudio, cymdeithasu a chwarae pêl-rwyd.