Gwobr Amrywiaeth yn y Gadwyn Gyflenwi

Gyda thua £300 biliwn o wariant caffael blynyddol, mae gan sector cyhoeddus y DU ddylanwad enfawr ar gadwyni cyflenwi; o gwmnïau rhyngwladol i ficrofusnesau. Mae’r categori newydd hwn yn cydnabod y prynwyr hynny sydd nid yn unig yn cofleidio egwyddorion amrywiaeth ond sy’n gweithio i’w gwreiddio yn eu gweithgarwch caffael. Mae’n dangos cyrff yn y sector cyhoeddus sydd wedi ymgysylltu’n llwyddiannus â phob math o gyflenwr, gan helpu nid yn unig i greu cymdeithas decach, ond hefyd i ryddhau talent ac arloesedd sy’n creu gwasanaethau cyhoeddus gwell.

P’un a yw’n canolbwyntio ar brosiect neu fenter benodol, neu’n gysylltiedig â dull gweithredu cyffredinol, bydd ceisiadau sy’n dangos sut mae amrywiaeth yn cael ei gyfleu a’i wreiddio mewn arferion caffael yn cael eu dathlu yma.

Mae’n agored i: Sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a sefydliadau preifat/gwirfoddol o’r tu mewn neu’r tu allan i Gymru gyda chymorth ysgrifenedig gan yr awdurdod sy’n eu noddi ‒ er enghraifft, datganiad ysgrifenedig gydag enw a swydd y noddwr, naill ai yn y cais neu fel atodiad.

Amserlen: Rhaid i gais Gwobrau GO yn y categori hwn gyfeirio at waith a wnaed yn ystod y cyfnod rhwng mis Ionawr 2021 a mis Mehefin 2022.

Cwestiynau Mynediad

Cefndir
Disgrifiwch y dull a ddefnyddir gan y sefydliad i sicrhau bod amrywiaeth y gadwyn gyflenwi yn cael sylw drwy gaffael. Rhowch fanylion pam y defnyddiwyd y dull hwn, a’r nodau a’r elfennau i’w cyflawni a oedd yn ddymunol. (Ni fydd yr ateb hwn yn cael ei sgorio)

Eglurwch pa agweddau ar ddull y sefydliad at amrywiaeth yn y gadwyn gyflenwi oedd yn arbennig o arloesol a blaengar a sut yr effeithiodd hyn ar eich dull o gaffael, yn enwedig o ran penderfynu ar y llwybr gorau i’r farchnad a’r canlyniadau yr oedd modd eu cyflawni.

Pa lefel o ymgysylltu a gafwyd â phartïon yn y sefydliad a phartïon allanol (rhanddeiliaid, contractwyr, y trydydd sector, defnyddwyr, ac ati) i sicrhau bod y fenter hon wedi’i chwmpasu’n drylwyr ac wedi’i dylunio i fynd i’r afael ag Amrywiaeth yn y Gadwyn Gyflenwi?

Disgrifiwch unrhyw rwystrau i lwyddiant y daethoch ar eu traws, boed hynny cyn ymgysylltu â’r farchnad, yn ystod y broses gaffael neu wrth weithredu’r contract, ac egluro sut cafodd y rhain eu goresgyn.

Eglurwch y canlyniadau sydd wedi’u cyflawni hyd yma, ers dechrau’r fenter ac a yw’r rhain yn cyd-fynd â’r hyn a ragwelwyd ar y dechrau. (Rhowch dystiolaeth i gefnogi eich ateb)

Ym mha feysydd y mae amrywiaeth yn y gadwyn gyflenwi wedi rhagori ar ddisgwyliadau’r awdurdod, rhanddeiliaid, contractwyr a/neu ddefnyddwyr, gan gyflawni mwy na’r gofyniad craidd? (Rhowch dystiolaeth i gefnogi hyn)

O ganlyniad i’r broses gaffael hon, sut mae’r canlyniadau/manteision hyn wedi cael eu rhannu’n fewnol, ar draws eich sefydliad ac â sefydliadau eraill i helpu i siapio prosesau caffael yn y dyfodol?