Gwobr Amrywiaeth Cadwynau Cyflenwi

Mae’r Wobr hon yn cydnabod awdurdodau contractio sydd wedi rhagori wrth ddatblygu cadwynau cyflenwi amrywiol a chynhwysol sy’n cynnwys microfusnesau a busnesau bach, grwpiau gwirfoddol a chymunedol a sefydliadau eraill. Mae’n canolbwyntio ar amrywiaeth ac ar y manteision y gall hynny eu cynnig i randdeiliaid, gan gynnwys defnyddwyr terfynol gwasanaethau cyhoeddus.

Sector: Sector Preifat, Sector Gwirfoddol a Sector Cyhoeddus

Amserlen: Rhaid bod cais Gwobrau GO yn y categori hwn yn ymdrin â gweithgarwch yn ystod y cyfnod rhwng mis Ionawr 2024 a mis Mehefin 2025.

Cwestiynau Mynediad

Cefndir

Rhowch fanylion am gefndir y sefydliad sy’n cyflwyno cais ar gyfer y categori hwn. (Ni fydd yr ateb hwn yn cael ei sgorio)

Heriau a Goresgyn Rhwystrau:

Beth oedd y prif heriau wrth greu cadwyn gyflenwi fwy amrywiol a chynhwysol? Sut yr aethoch i’r afael â’r heriau hynny, a pha effaith gafodd eich ymdrechion ar gyflenwyr, cwsmeriaid a’r sector cyhoeddus ehangach?

Strategaethau Allgymorth ac Ymgysylltu:

Disgrifiwch sut y mae eich sefydliad wedi ymgysylltu â chyflenwyr sy’n ddifreintiedig neu sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Pa fentrau allgymorth neu systemau cymorth sydd wedi cael eu rhoi ar waith i annog mwy o gyfranogiad? Sut yr ydych wedi defnyddio dulliau gweithredu megis cyflawni gwaith ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad?

Hybu Cynhwysiant ac Amrywiaeth:

Sut y mae eich dull o gaffael wedi hybu cynhwysiant ac amrywiaeth yn weithredol? Rhowch enghreifftiau o sut yr ydych wedi ei gwneud yn bosibl i gyflenwyr o gefndiroedd amrywiol gael cyfleoedd ystyrlon.

Dangos Gwerth a Chanlyniadau:

Ym mha ffyrdd y mae eich cadwyn gyflenwi amrywiol wedi ychwanegu gwerth at y modd y caiff gwasanaethau’r sector cyhoeddus eu darparu? Tynnwch sylw at ganlyniadau mesuradwy ac at fetrigau allweddol sy’n dangos effaith eich dull gweithredu.

Arloesi ac Arfer Gorau o ran Amrywiaeth Cadwynau Cyflenwi:

Pa ddulliau arloesol neu arferion gorau yr ydych wedi’u rhoi ar waith i hybu a chynnal cadwyn gyflenwi amrywiol? Sut y mae’r mentrau hynny wedi gwella effeithlonrwydd, gwaith ymgysylltu neu ganlyniadau caffael cyffredinol?

Twf yn y Dyfodol a Chynaliadwyedd:

Pa gamau yr ydych yn eu cymryd i sicrhau bod eich ymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn parhau’n rhan annatod o’ch strategaeth gaffael? Sut y byddwch yn parhau i sbarduno gwelliannau yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod?