GWOBR CYFLENWR Y FLWYDDYN
Yn cydnabod cyflenwr sydd wedi dangos partneriaeth, ymrwymiad a chyfraniad eithriadol at ganlyniadau'r sector cyhoeddus.
YMGEISIO AM Y GWOBRAUTrosolwg o'r Wobr
Mae’r wobr hon yn cydnabod cyflenwr – o’r sector preifat, y sector gwirfoddol, y sector cymunedol a’r sector mentrau cymdeithasol, neu o rywle arall – sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i ganlyniadau caffael cyhoeddus yn ystod y cyfnod cymwys. Mae’n fwy na chyflawni contract yn unig; mae a wnelo ag ansawdd partneriaeth, yr ymrwymiad i werth cyhoeddus, a’r parodrwydd i fynd y tu hwnt i’r contract i gynorthwyo’r sefydliadau a’r cymunedau a gaiff eu gwasanaethu.
Cymhwystra: Mae’n agored i’r sector cyhoeddus, y sector gwirfoddol, y sector cymunedol a’r sector mentrau cymdeithasol, ac unrhyw sefydliadau eraill nad ydynt yn perthyn i’r sector cyhoeddus ond sy’n cyflenwi nwyddau neu wasanaethau i’r sector cyhoeddus.
Cyfnod cymwys: Mis Ionawr 2025 i fis Mawrth 2026