Gwobr Gwerth Cymdeithasol

Fel prynwr mwyaf y DU, mae’r sector cyhoeddus yn gallu darparu gwasanaethau gwych a thrawsnewid bywydau drwy greu gwerth cymdeithasol. Mae’r Wobr hon ar gyfer y sefydliadau hynny sy’n gweld gwerth cymdeithasol fel rhan annatod o’u gweithgarwch caffael – gan fyw a’i anadlu ochr yn ochr â’u partneriaid yn y gadwyn gyflenwi a’i gwreiddio ym mhob contract maen nhw’n ei greu a’i reoli. I gyflenwyr, mae’r Wobr hon yn gyfle gwych i ddangos sut maent yn helpu prynwyr i gyflawni mwy mewn ffyrdd newydd ac arloesol, gan ganolbwyntio ar fuddiannau cymdeithasol, amgylcheddol a chymunedol.

Mae’n agored i: Sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a sefydliadau preifat/gwirfoddol o’r tu mewn neu’r tu allan i Gymru gyda chefnogaeth ysgrifenedig gan awdurdod sy’n eu noddi. Er enghraifft, datganiad ysgrifenedig gydag enw a swydd y noddwr, naill ai yn y cais neu fel atodiad.

Amserlen: Rhaid i gais Gwobrau GO yn y categori hwn gyfeirio at waith a wnaed yn ystod y cyfnod rhwng mis Ionawr 2022 a mis Mehefin 2023.

Cwestiynau Mynediad

Cefndir
Disgrifiwch y dull buddiannau cymdeithasol y mae eich sefydliad wedi’i ddefnyddio drwy’r gweithgarwch caffael, gan gynnwys, lle bo’n briodol, o fewn y broses gaffael ei hun. Rhowch fanylion pam y dewiswyd y dull hwn, y nodau a’r elfennau i’w cyflawni a oedd yn ddymunol a’r ffactorau llwyddiant allweddol ar gyfer cyflawni’n llwyddiannus. (Ni fydd yr ateb hwn yn cael ei sgorio)

Eglurwch pa agweddau ar yr amcanion cymdeithasol oedd yn arbennig o arloesol a blaengar a sut yr effeithiodd hyn ar y gwaith o gyflawni’r prosiect, yn enwedig o ran penderfynu ar y llwybr gorau i’r farchnad a’r canlyniadau yr oedd modd eu cyflawni.

Pa lefel o ymgysylltu a gafwyd â phartïon yn y sefydliad a phartïon allanol i sicrhau bod y fenter wedi’i chwmpasu’n drylwyr ac wedi’i dylunio gyda golwg ar ganlyniadau cymdeithasol?

Disgrifiwch unrhyw rwystrau i lwyddiant y daethoch ar eu traws, boed hynny cyn ymgysylltu â’r farchnad, yn ystod yr ymarfer caffael neu wrth weithredu’r contract, ac egluro sut cafodd y rhain eu goresgyn.

Eglurwch y canlyniadau sydd wedi’u cyflawni hyd yma, ers dechrau’r contract ac a yw’r rhain yn cyd-fynd â’r hyn a ragwelwyd ar y dechrau. Rhowch dystiolaeth o dargedau penodol, cerrig milltir allweddol, adborth a gafwyd a dangosyddion perfformiad, lefelau gwasanaeth neu fanteision mesuradwy eraill a gyflawnwyd. (Rhowch dystiolaeth empirig i gefnogi eich ateb)

Ym mha feysydd y mae’r contract wedi rhagori ar ddisgwyliadau’r awdurdod, rhanddeiliaid a/neu ddefnyddwyr, gan gyflawni mwy na’r gofyniad craidd. (Rhowch dystiolaeth i gefnogi hyn)

O ganlyniad i’r broses gaffael hon, ydy’r manteision cymdeithasol wedi cael eu rhannu’n fewnol, ar draws eich sefydliad ac â sefydliadau eraill i helpu i siapio prosesau caffael yn y dyfodol?