GWOBR PROSIECT CAFFAEL CYHOEDDUS Y FLWYDDYN
Yn cydnabod prosiect caffael sydd wedi sicrhau gwerth cyhoeddus eithriadol drwy gynllunio effeithiol, cyflawni llwyddiannus a chanlyniadau mesuradwy.
YMGEISIO AM Y GWOBRAUTrosolwg o'r Wobr
Mae’r wobr hon yn cydnabod prosiect caffael unigol sydd wedi esgor ar werth cyhoeddus eithriadol drwy gynllunio’n fanwl, gweithredu’n effeithiol a mesur canlyniadau’n glir. Mae’r beirniaid yn chwilio am brosiectau lle cafodd y gwahaniaeth ei gyflawni gan waith caffael – hynny yw, mai ansawdd y broses gaffael, y gwaith ymgysylltu â’r farchnad, y strwythur masnachol a’r broses o reoli contract oedd y rheswm uniongyrchol dros ganlyniad llwyddiannus. Mae sylwedd yn bwysicach na’r raddfa.
Cymhwystra: Mae’n agored i sefydliadau yn y sector cyhoeddus; gall ceisiadau gynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau partner sy’n ymwneud â phrosiectau cydweithredol.
Cyfnod cymwys: Mis Ionawr 2025 i fis Mawrth 2026