Prosiect Caffael Cyhoeddus y Flwyddyn

Yn newydd ar gyfer 2025/26!

Mae’r categori hwn yn dathlu prosiect caffael sy’n dod ag arfer gorau ac arloesi o amryw feysydd ynghyd mewn un fenter sydd wedi’i chyflawni yn wych. Mae’n cydnabod gwaith arloesol, a’r ffaith bod rhywbeth wedi’i gyflawni sy’n datblygu yn wirioneddol ddulliau ymarfer ym maes caffael cyhoeddus – gan greu esiampl i eraill ei dilyn.

Sector: Sector cyhoeddus neu Sector Cyhoeddus yn gweithio gyda’r Sector Preifat/Gwirfoddol.

Amserlen: Rhaid bod cais Gwobrau GO yn y categori hwn yn ymdrin â gweithgarwch yn ystod y cyfnod rhwng mis Ionawr 2024 a mis Mehefin 2025.

Cwestiynau Mynediad

Cefndir

Rhowch fanylion am gefndir y sefydliad sy’n cyflwyno cais ar gyfer y categori hwn. (Ni fydd yr ateb hwn yn cael ei sgorio)

Heriau a Goresgyn Rhwystrau:

Beth oedd y prif heriau a wynebwyd wrth gynllunio a chyflawni’r prosiect caffael hwn? Sut y gwnaethoch eu goresgyn, a pha effaith gafodd yr atebion hynny ar randdeiliaid a defnyddwyr terfynol?

Straeon am Gyflawni ac am Lwyddiant:

Beth sy’n gwneud y prosiect hwn yn enghraifft neilltuol o ragoriaeth ym maes caffael cyhoeddus? Tynnwch sylw at gyflawniadau a cherrig milltir allweddol sy’n dangos llwyddiant y prosiect.

Arfer Gorau ym maes Caffael:

Pa rôl y gwnaeth dulliau gweithredu arfer gorau – megis cydweithio, cyflawni gwaith ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad, ac ystyried gwerth cymdeithasol a chynaliadwyedd – ei chwarae yn llwyddiant y prosiect hwn? Rhannwch enghreifftiau penodol o sut y gwnaeth cydweithio â chyflenwyr, sefydliadau’r sector cyhoeddus neu randdeiliaid eraill gyfrannu at gyflawni canlyniadau rhagorol.

Arweinyddiaeth:

Pa ddull arwain neu egwyddorion arfer gorau a wnaeth lywio’r gwaith o ddatblygu a chyflawni’r prosiect hwn? Sut y mae’r rhain wedi dylanwadu ar safonau caffael cyhoeddus neu wedi ysbrydoli pobl eraill?

Canlyniadau a Manteision i Ddefnyddwyr Terfynol:

Pa ganlyniadau mesuradwy sy’n dangos effaith gadarnhaol y prosiect hwn? Darparwch dystlythyrau neu ddata sy’n dangos sut y mae’r fenter wedi bod o fudd i ddefnyddwyr terfynol a’r sector cyhoeddus ehangach.

Mabwysiadu, Hyrwyddo a Gwaddol:

Sut y mae’r prosiect hwn wedi sbarduno pobl eraill i fabwysiadu arferion gorau ym maes caffael? Pa gamau sydd wedi’u cymryd i hyrwyddo llwyddiant y prosiect, a sut y bydd y prosiect yn parhau i ddylanwadu ar strategaethau caffael yn y dyfodol?