GWOBR TÎM CAFFAEL Y FLWYDDYN
Yn cydnabod tîm caffael sydd wedi sicrhau canlyniadau eithriadol drwy gydweithio, proffesiynoldeb ac ymrwymiad i werth cyhoeddus.
YMGEISIO AM Y GWOBRAUTrosolwg o'r Wobr
Mae’r wobr hon yn cydnabod tîm caffael sydd wedi cyflawni canlyniadau eithriadol drwy broffesiynoldeb, cydweithio, ac ymrwymiad gwirioneddol i werth cyhoeddus. Gall ceisiadau ganolbwyntio ar brosiect neu raglen benodol neu gallant adlewyrchu cyfnod parhaus o berfformio’n dda ar draws sawl maes gwaith – mae’r naill beth yr un mor ddilys â’r llall. Mae’r beirniaid yn chwilio am dîm sydd fel cyfanwaith yn amlwg yn well na’i aelodau pe baent yn gweithio ar wahân i’w gilydd: mae’r modd y mae aelodau’r tîm yn cydweithio â’i gilydd yr un mor drawiadol â’r hyn y mae’r tîm wedi’i gyflawni.
Cymhwystra: Mae’n agored i dimau caffael yn y sector cyhoeddus; gall ceisiadau gynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau partner sy’n ymwneud â gwaith cydweithredol.
Cyfnod cymwys: Mis Ionawr 2025 i fis Mawrth 2026