Gwobr Tîm Caffael y Flwyddyn

Mae’r categori hwn yn cydnabod grym gwaith tîm – boed o fewn tîm unigol neu ar draws swyddogaethau neu sefydliadau. Mae’n dathlu cydweithio gwych, nodau cyffredin a’r gallu i gyfuno sgiliau a phrofiadau amrywiol i gyflawni canlyniadau rhagorol.

Sector: Y sector cyhoeddus.

Amserlen: Rhaid bod cais Gwobrau GO yn y categori hwn yn ymdrin â gweithgarwch yn ystod y cyfnod rhwng mis Ionawr 2024 a mis Mehefin 2025.

Cwestiynau Mynediad

Cefndir

Rhowch fanylion am gefndir y sefydliad sy’n cyflwyno cais ar gyfer y categori hwn. (Ni fydd yr ateb hwn yn cael ei sgorio)

Beth oedd prif amcan y tîm, a pha heriau neu gyfleoedd y gwnaeth fynd i’r afael â nhw drwy ei waith?

Disgrifiwch gyd-destun a nodau ymdrechion y tîm. Beth wnaeth ysgogi’r fenter a pha ganlyniadau yr oedd yn ceisio eu cyflawni?

Sut y gwnaeth y tîm ddangos cydweithio a gwaith tîm effeithiol, naill ai’n fewnol neu ar draws sefydliadau?

Esboniwch sut y gweithiodd aelodau’r tîm gyda’i gilydd, a oedd yn cynnwys cydweithio ar draws swyddogaethau neu ar draws sefydliadau. Tynnwch sylw at waith cyfathrebu, nodau cyffredin a gwaith datrys problemau ar y cyd.

Pa ddulliau gweithredu arloesol neu arferion gorau wnaeth y tîm eu cyflwyno er mwyn gwella perfformiad ym maes caffael?

Disgrifiwch unrhyw ddulliau, adnoddau neu strategaethau newydd a roddwyd ar waith. Esboniwch sut y gwnaeth y rhain gyfrannu at ganlyniadau gwell neu bennu safon newydd ar gyfer rhagoriaeth.

Pa ganlyniadau mesuradwy neu welliannau i berfformiad a gyflawnwyd o ganlyniad i waith y tîm?

Darparwch dystiolaeth o lwyddiant gan ddefnyddio metrigau megis y costau a arbedwyd, yr amser a arbedwyd, gwasanaethau’n cael eu darparu’n well, neu lefelau uwch o fodlonrwydd ymhlith rhanddeiliaid.

Sut y gwnaeth y tîm sicrhau gwerth am arian ac effeithlonrwydd drwy gydol y broses gaffael?

Disgrifiwch sut y gwnaeth y tîm gydbwyso ansawdd, cost a risg. Dylech gynnwys enghreifftiau o sut y cafodd effeithlonrwydd a gwerth eu hymgorffori mewn penderfyniadau.

Sut y mae gwaith y tîm wedi cynnwys rhanddeiliaid ac wedi cyfrannu at effaith neu drawsnewid hirdymor?

Esboniwch sut y gwnaeth y tîm greu cydberthnasau, ennyn cefnogaeth a chyflawni manteision parhaol i ddefnyddwyr terfynol neu’r sefydliad ehangach.