Dathlu eich llwyddiannau ym maes caffael cyhoeddus
Mae Gwobrau GO Cymru – sy’n cael ei gefnogi’n swyddogol gan Lywodraeth Cymru – yn cydnabod llwyddiant a chyflawniad pawb sy’n ymwneud â’r gwaith o ddarparu gwasanaethau’r sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector. Mae’r gwobrau hyn yn cael eu beirniadu gan brif ffigurau ym maes caffael yng Nghymru a’r DU, ac mae pawb eisiau eu hennill.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Cymru wedi sefydlu ei hun yn arweinydd byd-eang o ran darparu datrysiadau arloesol a chreadigol i’r heriau lu sy’n wynebu’r sector cyhoeddus. Drwy ymrwymiad cadarn i drawsnewid digidol, mae Cymru wedi sefydlu’r gwaith o roi technolegau arloesol ar waith mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan wella effeithlonrwydd a hygyrchedd. Mae ffocws Llywodraeth Cymru ar ddulliau cydweithredol wedi meithrin partneriaethau cryf rhwng y sectorau cyhoeddus a’r sectorau preifat, gan sbarduno datblygiadau ym maes gofal iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol.
Wrth i broffil caffael y sector cyhoeddus a’i gadwyn gyflenwi gysylltiedig barhau i godi, mae’n bwysicach nag erioed cydnabod a dysgu o’r enghreifftiau gorau o gaffael a chyflenwi cyhoeddus.
Ers 2002, mae Gwobrau GO Rhagoriaeth mewn Caffael Cyhoeddus wedi tynnu sylw at sefydliadau ac unigolion sydd wedi arwain y ffordd o ran arferion gorau ym maes caffael cyhoeddus ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac mae Cymru bob amser yn cael llwyddiant ysgubol. Bydd llawer o enillwyr yn mynd i fwynhau llwyddiant pellach yn y Gwobrau GO Cenedlaethol, a gynhelir nesaf yn Lerpwl ym mis Mai 2025.
Bydd Seremoni Gwobrau GO 2024/25 yn cael ei chynnal ar 5 Tachwedd 2024, Marriott, Caerdydd.