Gwobr Unigolyn y Flwyddyn

Nid yw proffil caffael cyhoeddus erioed wedi bod yn uwch, gyda Brexit, COVID-19 a’r adferiad economaidd i gyd yn canolbwyntio mwy ar gaffael a’r galw am well lefelau perfformiad, effeithiolrwydd, arloesi ac effeithlonrwydd. Ychydig iawn o broffesiynau sy’n cynnig y cyfle i gael cymaint o effaith ar gymdeithas ledled y DU.

Mae Gwobr Unigolyn y Flwyddyn yn cydnabod unigolion sy’n gweld heriau fel cyfleoedd. Mae ar gyfer y rheini sy’n ymdrechu i wella’n barhaus ac sydd â’r weledigaeth a’r dewrder i wneud gwahaniaeth; waeth beth yw eu sefyllfa. 

Boed yn cyflawni pethau gwych yn gynnar yn eu gyrfa, neu’n dangos hanes hir o lwyddiant, mae’r categori hwn yn dathlu unigolion sy’n gosod y safon ar gyfer y rheini sy’n dilyn ac sy’n ysbrydoli’r rheini o’u cwmpas.

Mae’r categori hwn yn canolbwyntio ar y manteision gweladwy y gellir eu cael o gaffael eithriadol yn ogystal â chanolbwyntio ar rôl yr unigolyn wrth ddatblygu newid, neu wrth arwain penderfyniadau strategol a sicrhau arbedion ac effeithlonrwydd drwy gaffael.

Mae’n agored i: Unigolion sy’n gweithio mewn sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Amserlen: Rhaid i gais Gwobrau GO yn y categori hwn gyfeirio at waith a wnaed yn ystod y cyfnod rhwng mis Ionawr 2022 a mis Mehefin 2023.

Cwestiynau Mynediad

Cefndir
Rhowch drosolwg o’r unigolyn sy’n cael ei enwebu, gan gynnwys manylion ei gefndir ac a yw’n newydd i’r proffesiwn neu a oes ganddo flynyddoedd lawer o brofiad o ddarparu contractau cyhoeddus. (Ni fydd yr ateb hwn yn cael ei sgorio)

Eglurwch pam eich bod yn credu bod yr unigolyn hwn yn haeddu cael ei enwebu ar gyfer y Wobr hon

Rhowch enghreifftiau o ble mae’r unigolyn hwn wedi mynd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir i sicrhau canlyniadau llwyddiannus drwy gaffael.

Rhowch ddisgrifiad manwl o berfformiad yr unigolyn mewn un ymarfer caffael penodol, yn ystod y cyfnod priodol, ac egluro sut mae canlyniad y broses wedi elwa o’r hyn a wnaeth.

Rhowch enghreifftiau o sut mae perfformiad personol yr unigolyn wedi bod yn arloesol, yn unigryw, yn greadigol neu wedi torri tir newydd?

Eglurwch sut mae’r unigolyn wedi gwella strategaeth neu berfformiad cyffredinol y gwaith caffael?

Ydy eich sefydliad wedi dysgu unrhyw wersi o ddatblygiad yr unigolyn hwn ac wedi defnyddio’r rhain i wella polisi neu sicrhau budd yn fewnol – ac eglurwch sut mae hyn wedi effeithio ar unigolion eraill yn y sefydliad?