Gwobr Unigolyn y Flwyddyn
Mae’r categori hwn yn dathlu gwaith rhagorol gan unigolion sy’n gweithio mewn tîm neu swyddogaeth ym maes caffael cyhoeddus. Mae’n cydnabod bod caffael yn waith i dîm, ond bod arno angen unigolion rhagorol i chwalu ffiniau a sicrhau newid parhaol.
Sector: Y sector cyhoeddus.
Amserlen: Rhaid bod cais Gwobrau GO yn y categori hwn yn ymdrin â gweithgarwch yn ystod y cyfnod rhwng mis Ionawr 2024 a mis Mehefin 2025.
Cwestiynau Mynediad
Cefndir
Rhowch fanylion am gefndir y sefydliad sy’n cyflwyno cais ar gyfer y categori hwn. (Ni fydd yr ateb hwn yn cael ei sgorio)

Disgrifiwch brif gyflawniadau’r unigolyn yn ei rôl ym maes caffael cyhoeddus.
Amlinellwch y cyflawniadau amlycaf sy’n dangos effaith, arweinyddiaeth neu ragoriaeth yr unigolyn ym maes caffael.

Sut y mae’r unigolyn wedi dangos arloesedd neu wedi cyfrannu at esblygiad gwaith caffael yn ei sefydliad neu’i sector?
Rhowch enghreifftiau o syniadau newydd, dulliau gweithredu newydd neu welliannau y mae wedi’u cyflwyno, a’r gwahaniaeth y mae’r rhain wedi’i wneud.

Ym mha ffyrdd y mae’r unigolyn wedi dangos ymrwymiad i’w ddatblygiad/datblygiad proffesiynol ei hun ac i ddysgu’n barhaus?
Disgrifiwch sut y mae’r unigolyn wedi ceisio tyfu drwy hyfforddiant, cymwysterau, proses fentora neu gyfleoedd eraill i ddysgu.

Sut y mae’r unigolyn wedi cefnogi neu wedi ysbrydoli pobl eraill yn ei dîm/ei thîm neu yn y sefydliad ehangach?
Esboniwch sut y mae wedi cyfrannu i ddiwylliant y tîm, wedi rhannu gwybodaeth neu wedi helpu pobl eraill i ddatblygu a llwyddo.

Pa gamau rhagweithiol y mae’r unigolyn wedi’u cymryd i fynd i’r afael â heriau neu i achub ar gyfleoedd yn ei rôl?
Tynnwch sylw at enghreifftiau o flaengaredd, arweinyddiaeth neu waith datrys problemau, sydd wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol.

Sut y mae cyfraniad yr unigolyn wedi cael ei gydnabod, a beth sy’n golygu ei fod yn gyfraniad neilltuol?
Dylech gynnwys unrhyw gydnabyddiaeth ffurfiol, adborth neu dystlythyrau ac esbonio pam y mae gwaith yr unigolyn yn haeddu cael ei ddathlu.