GWOBR GWERTH CYMDEITHASOL
Cydnabod sefydliadau sy'n defnyddio caffael i gyflawni effaith gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ystyrlon.
YMGEISIO AM Y GWOBRAUTrosolwg o'r Wobr
Mae’r wobr hon yn cydnabod sefydliadau sydd wedi mynd y tu hwnt i gydymffurfio’n unig i sicrhau bod gwerth cymdeithasol yn ffactor gwirioneddol sy’n gyrru penderfyniadau a chanlyniadau caffael. Mae’n dathlu’r sawl sydd wedi dylunio gweithgarwch caffael i gyflawni buddion mesuradwy i gymunedau, economïau lleol, yr amgylchedd, a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol – ac sy’n gallu dangos bod y buddion hynny’n rhai gwirioneddol, ychwanegol a pharhaus.
Cymhwystra:Mae’n agored i sefydliadau’r sector cyhoeddus a sefydliadau sy’n gweithio mewn partneriaeth â chorff yn y sector cyhoeddus.
Cyfnod cymwys: Mis Ionawr 2025 i fis Mawrth 2026