Categori Gwobr

GWOBR TRAWSNEWID DIGIDOL YM MAES CAFFAEL

Yn cydnabod sefydliadau sydd wedi defnyddio technoleg ddigidol, data neu ddeallusrwydd artiffisial i drawsnewid caffael a sicrhau gwelliannau mesuradwy.

YMGEISIO AM Y GWOBRAU
Trosolwg o'r Wobr

Mae’r wobr hon yn cydnabod sefydliadau yn y sector cyhoeddus sydd wedi manteisio’n llwyddiannus ar dechnoleg ddigidol, dadansoddeg data neu ddeallusrwydd artiffisial i drawsnewid eu hymarfer caffael. Mae’r beirniaid yn chwilio am ddulliau gweithredu sy’n mynd y tu hwnt i offerynnau a phlatfformau i ddangos gwelliannau gwirioneddol i brosesau, penderfyniadau gwell, a chanlyniadau mesuradwy – ac sydd wedi mynd i’r afael â’r heriau’n ymwneud â phobl, sgiliau a rheoli newid, na all technoleg ar ei phen ei hun eu datrys.

Cymhwystra: Mae’n agored i sefydliadau yn y sector cyhoeddus.

Cyfnod cymwys: Mis Ionawr 2025 i fis Mawrth 2026

Cwestiynau'r Cais
1

Beth oedd y cyd-destun strategol neu'r her a ysgogodd y fenter neu'r cyflawniad hwn?

2

Sut y gwnaethoch ymgysylltu â rhanddeiliaid ac adeiladu'r gallu oedd ei angen i gyflawni?

3

Pa ganlyniadau mesuradwy y mae'r gwaith hwn wedi'u cyflawni, a sut maent yn dangos gwerth am arian a budd i'r cyhoedd?

4

Sut rydych wedi ymgorffori'r hyn a ddysgwyd a rhannu eich cyflawniadau'n ehangach?

5

Sut y gwnaethoch asesu aeddfedrwydd a pharodrwydd digidol, a pha gamau a gymerwyd gennych i fynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau a rheoli newid cyn ac yn ystod y trawsnewid?

6

Pa dechnolegau penodol a ddefnyddiwyd, sut y cawsant eu dewis a'u sicrhau, a pha welliannau mesuradwy o ran effeithlonrwydd, tryloywder neu ansawdd ym maes caffael sydd wedi deillio o hynny?

🏆

Yn barod i gyflwyno cais?

Mae'r ceisiadau bellach ar agor

CYFLWYNWCH GAIS