GWOBR MENTRAU CONTRACTIOL A MASNACHOL
Yn cydnabod dulliau arloesol o reoli masnachol a chontractau sydd wedi sicrhau gwerth mesuradwy, perthnasoedd cryfach a chanlyniadau gwell.
YMGEISIO AM Y GWOBRAUTrosolwg o'r Wobr
Mae’r wobr hon yn cydnabod dull arloesol o ymdrin â strategaeth fasnachol, dylunio contract neu reoli contract, sydd wedi esgor ar welliannau mesuradwy o ran gwerth am arian, gwaith rheoli risg, neu gydberthnasau â chyflenwyr. Mae’r beirniaid yn chwilio am feddylfryd masnachol sy’n mynd y tu hwnt i dempledi safonol ac anhoffter o risg – dulliau gweithredu sy’n dangos creadigrwydd a chrebwyll gwirioneddol, parodrwydd i herio confensiwn, a chanlyniadau sy’n cyfiawnhau’r dull gweithredu a fabwysiadwyd.
Cymhwystra: Mae’n agored i sefydliadau yn y sector cyhoeddus.
Cyfnod cymwys: Mis Ionawr 2025 i fis Mawrth 2026