Contract a Menter Fasnachol y Flwyddyn
Yn newydd ar gyfer 2025/26!
Mae’r categori hwn yn canolbwyntio ar waith rhagorol ym maes rheoli contractau – adnabod arloesi ac arfer gorau er mwyn cynyddu gymaint ag y bo modd werth contract drwy gydol ei oes, ac ymgysylltu’n fasnachol â chyflenwyr er mwyn cyflawni canlyniadau gwell a lleihau risgiau.
Sector: Y sector cyhoeddus.
Amserlen: Rhaid bod cais Gwobrau GO yn y categori hwn yn ymdrin â gweithgarwch yn ystod y cyfnod rhwng mis Ionawr 2024 a mis Mehefin 2025.
Cwestiynau Mynediad
Cefndir
Rhowch fanylion am gefndir y sefydliad sy’n cyflwyno cais ar gyfer y categori hwn. (Ni fydd yr ateb hwn yn cael ei sgorio)

Pa heriau penodol a wynebodd eich sefydliad o ran rheoli contractau a mentrau masnachol, a sut y cafodd yr heriau hynny eu hadnabod?
Disgrifiwch natur yr heriau yn y contract a’u heffaith bosibl ar effeithiolrwydd caffael neu risg?

Pa strategaethau arloesol neu arferion gorau wnaeth eich tîm eu rhoi ar waith er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hynny?
Tynnwch sylw at sut yr aeth eich dull gweithredu y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir fel arfer ym maes rheoli contractau a risg.

Sut y mae eich menter wedi cynyddu gwerth i’ch sefydliad a’i randdeiliaid?
Darparwch dystiolaeth o fanteision mesuradwy, megis y costau a arbedwyd, gwerth uwch neu ychwanegol, neu wasanaethau’n cael eu darparu’n well.

Sut y gwnaethoch gynnwys cyflenwyr yn y broses, a pha effaith gafodd hynny ar waith rheoli risg ac ar lwyddiant contract?
Rhannwch enghreifftiau o gydweithio â chyflenwyr, a gyfrannodd i ganlyniadau gwell.

Pa gyflawniad yr ydych fwyaf balch ohono yn y fenter hon, a pha wersi y gall timau caffael eraill eu dysgu o’ch profiad chi?
Pwysleisiwch sut y gall eich dull gweithredu chi fod yn fodel i sefydliadau eraill.

Sut y mae eich sefydliad wedi ymgorffori’r gwelliannau hyn mewn arferion caffael hirdymor i sicrhau effaith barhaol?
Esboniwch sut y mae’r gwersi a ddysgwyd wedi llywio strategaethau a pholisïau eich sefydliad.