Gwobr Menter Caffael Cydweithredol

Mae cydweithio yn elfen hanfodol o gaffael cyhoeddus llwyddiannus. Gall sefydliadau sy’n croesawu rhannu syniadau a gwybodaeth symud yn gyflymach ac yn fwy effeithiol i gyflawni eu nodau. Ond nid yw’n hawdd cydweithio bob amser – felly mae’r Wobr hon yn canolbwyntio ar sut mae sefydliadau wedi goresgyn gwrthdaro a gwahaniaethau diwylliannol wrth geisio sicrhau gwell canlyniadau ac ar y sefydliadau hynny lle mae’r cysyniad o gydweithio wedi bod yn ail natur iddynt.

Gall cydweithio ddigwydd ar wahanol gamau mewn proses gaffael neu gall fod yn greiddiol i’r ffordd mae sefydliad yn gweithredu – yn y naill achos neu’r llall, mae’r categori hwn yn cydnabod cynnydd sydd wedi’i gyflawni drwy ddull gweithredu cydgysylltiedig, boed yn ariannol neu’n effaith gadarnhaol mewn meysydd eraill fel budd cymdeithasol neu amgylcheddol.

Mae’r categori hwn yn cyflwyno’r syniad nad oes ffiniau i gydweithio – felly er bod yn rhaid i’r sefydliad sy’n cyflwyno’r cais fod wedi’i leoli yng Nghymru, gall y cydweithio ddigwydd gydag unrhyw sefydliad (neu sefydliadau) naill ai yn y wlad neu’r tu allan iddi.

Mae’n agored i: Sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru sy’n cydweithio â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus neu’r sector preifat yng Nghymru neu’r tu allan i Gymru.

Amserlen: Rhaid i gais Gwobrau GO yn y categori hwn gyfeirio at waith a wnaed yn ystod y cyfnod rhwng mis Ionawr 2022 a mis Mehefin 2023.

Cwestiynau Mynediad

Cefndir
Disgrifiwch yr ymarfer caffael a gynhaliwyd, nodi’r sefydliadau partner ac, os yw’n wahanol, i bwy y mae’r contract yn cael ei gyflawni. Rhowch fanylion pam y dewiswyd dull cydweithredol, y nodau a’r elfennau i’w cyflawni a oedd yn ddymunol a’r ffactorau llwyddiant allweddol ar gyfer cyflawni’n llwyddiannus. (Ni fydd yr ateb hwn yn cael ei sgorio)

Pa lefel o ymgysylltu â’r farchnad/cwmpasu’r farchnad a gynhaliwyd, boed hynny yn eich sefydliad eich hun neu gyda defnyddwyr, darparwyr posibl neu unrhyw grwpiau eraill sydd â diddordeb (ee y trydydd sector, y sector gwirfoddol, ac ati) i benderfynu mai dull cydweithredol oedd y fethodoleg gywir ar gyfer yr ymarfer caffael hwn.

Disgrifiwch unrhyw rwystrau y daethoch ar eu traws wrth geisio cyflawni’n llwyddiannus, boed hynny cyn ymgysylltu â’r farchnad, yn ystod yr ymarfer caffael neu wrth weithredu’r contract, ac egluro sut cafodd y rhain eu goresgyn.

Eglurwch y canlyniadau sydd wedi’u cyflawni hyd yma, ers dechrau’r contract ac a yw’r rhain yn cyd-fynd â’r hyn a ragwelwyd ar y dechrau. (Rhowch dystiolaeth empirig i gefnogi eich ateb)

Ym mha feysydd y mae’r dull cydweithredol wedi rhagori ar ddisgwyliadau’r awdurdod, rhanddeiliaid a/neu ddefnyddwyr, er enghraifft drwy fentrau arloesi neu fentrau cymdeithasol/amgylcheddol, gan gyflawni mwy na’r gofyniad craidd? (Rhowch dystiolaeth i gefnogi hyn)

O ganlyniad i'r cydweithio hwn, ydy'r sefydliad wedi mynd ati’n rhagweithiol i ganfod cyfleoedd caffael eraill lle gellid defnyddio dull cydweithredol tebyg yn y dyfodol?

O ganlyniad i’r fenter caffael cydweithredol hon, ydy’r canlyniadau/manteision wedi cael eu rhannu’n fewnol, ar draws eich sefydliad ac â sefydliadau eraill i helpu i siapio prosesau caffael yn y dyfodol?