GWOBR MENTER GAFFAEL GYDWEITHREDOL
Yn cydnabod mentrau caffael cydweithredol sydd wedi sicrhau canlyniadau rhagorol drwy bartneriaeth, arloesedd ac uchelgais gyffredin.
YMGEISIO AM Y GWOBRAUTrosolwg o'r Wobr
Mae’r wobr hon yn cydnabod mentrau caffael sydd wedi cyflawni canlyniadau rhagorach drwy gydweithio gwirioneddol – boed rhwng sefydliadau yn y sector cyhoeddus neu rhwng cyrff yn y sector cyhoeddus a phartneriaid yn y sector preifat, y sector gwirfoddol neu’r sector cymunedol. Mae’r beirniaid yn chwilio am drefniadau cydweithio lle mae’r cyfanwaith yn amlwg yn well na’r sefydliadau unigol pe baent yn gweithio ar wahân i’w gilydd: mae strwythur y bartneriaeth, ei llywodraethiant a’i hymrwymiad cyffredin i ganlyniadau wedi esgor ar gyflawniadau na fyddai unrhyw sefydliad unigol wedi gallu eu sicrhau ar eu pen eu hunain.
Cymhwystra: Mae’n agored i sefydliadau yn y sector cyhoeddus; gall ceisiadau gynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau partner.
Cyfnod cymwys: Mis Ionawr 2025 i fis Mawrth 2026