Categori Gwobr

GWOBR CYFLENWR Y FLWYDDYN

Yn cydnabod cyflenwr sydd wedi dangos partneriaeth, ymrwymiad a chyfraniad eithriadol at ganlyniadau'r sector cyhoeddus.

YMGEISIO AM Y GWOBRAU
Trosolwg o'r Wobr

Mae’r wobr hon yn cydnabod cyflenwr – o’r sector preifat, y sector gwirfoddol, y sector cymunedol a’r sector mentrau cymdeithasol, neu o rywle arall – sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i ganlyniadau caffael cyhoeddus yn ystod y cyfnod cymwys. Mae’n fwy na chyflawni contract yn unig; mae a wnelo ag ansawdd partneriaeth, yr ymrwymiad i werth cyhoeddus, a’r parodrwydd i fynd y tu hwnt i’r contract i gynorthwyo’r sefydliadau a’r cymunedau a gaiff eu gwasanaethu.

Cymhwystra: Mae’n agored i’r sector cyhoeddus, y sector gwirfoddol, y sector cymunedol a’r sector mentrau cymdeithasol, ac unrhyw sefydliadau eraill nad ydynt yn perthyn i’r sector cyhoeddus ond sy’n cyflenwi nwyddau neu wasanaethau i’r sector cyhoeddus.

Cyfnod cymwys: Mis Ionawr 2025 i fis Mawrth 2026

Cwestiynau'r Cais
1

Beth oedd y cyd-destun strategol neu'r her a ysgogodd y fenter neu'r cyflawniad hwn?

2

Sut y gwnaethoch ymgysylltu â rhanddeiliaid ac adeiladu'r gallu oedd ei angen i gyflawni?

3

Pa ganlyniadau mesuradwy y mae'r gwaith hwn wedi'u cyflawni, a sut maent yn dangos gwerth am arian a budd i'r cyhoedd?

4

Sut rydych wedi ymgorffori'r hyn a ddysgwyd a rhannu eich cyflawniadau'n ehangach?

5

Sut rydych wedi cyfrannu'n amlwg at wella gallu, prosesau neu ganlyniadau caffael y sefydliadau sector cyhoeddus rydych yn gweithio gyda nhw?

6

Pa dystiolaeth sydd gennych fod eich dull o gontractio yn y sector cyhoeddus yn sicrhau canlyniadau gwell na'r dewisiadau safonol sydd ar gael yn y farchnad?

🏆

Yn barod i gyflwyno cais?

Mae'r ceisiadau bellach ar agor

CYFLWYNWCH GAIS