Gwobr Rhagoriaeth o ran Gwerth Cymdeithasol
Mae gwerth cymdeithasol wedi ennill ei blwyf fel un o brif ffactorau llwyddiant ym maes caffael cyhoeddus. Mae’r categori hwn yn cydnabod sefydliadau, prosiectau neu fentrau sy’n torri tir newydd o ran sicrhau gwerth cymdeithasol, ac mae’n canolbwyntio ar waith ymgysylltu â chyflenwyr, y manteision i ddefnyddwyr terfynol, a chanlyniadau mesuradwy.
Sector: Y sector cyhoeddus.
Amserlen: Rhaid bod cais Gwobrau GO yn y categori hwn yn ymdrin â gweithgarwch yn ystod y cyfnod rhwng mis Ionawr 2024 a mis Mehefin 2025.
Cwestiynau Mynediad
Cefndir
Rhowch fanylion am gefndir y sefydliad sy’n cyflwyno cais ar gyfer y categori hwn. (Ni fydd yr ateb hwn yn cael ei sgorio)

Heriau a Goresgyn Rhwystrau:
Beth oedd y prif heriau wrth ymgorffori gwerth cymdeithasol yn eich gweithgareddau caffael? Sut y gwnaethoch oresgyn yr heriau hynny, a pha wahaniaeth y mae hynny wedi’i wneud i gymunedau, defnyddwyr terfynol a gwasanaethau cyhoeddus?

Hybu Arloesi ac Arfer Gorau:
Sut yr ydych wedi defnyddio dulliau gweithredu arloesol neu arferion gorau i wella gwerth cymdeithasol yn eich proses dendro? Rhowch enghreifftiau o strategaethau neu fethodolegau newydd sydd wedi gwella canlyniadau i bobl a chymunedau.

Effaith a Chanlyniadau Mesuradwy:
Pa ganlyniadau gwirioneddol sy’n dangos y gwerth cymdeithasol a grëwyd gan eich gweithgareddau caffael? Dylech gynnwys data, tystlythyrau neu astudiaethau achos sy’n dangos sut y mae eich gwaith wedi cael effaith gadarnhaol ar unigolion neu’r gymdeithas ehangach.

Cynaliadwyedd a Manteision Hirdymor:
Sut y mae eich sefydliad yn sicrhau bod gwerth cymdeithasol yn rhan annatod o benderfyniadau caffael ar gyfer adfywio a chynaliadwyedd hirdymor? Disgrifiwch sut yr ydych yn meithrin manteision parhaus y tu hwnt i rychwant uniongyrchol contract penodol.

Cydweithio ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid:
Sut yr ydych wedi ymgysylltu â chyflenwyr, partneriaid yn y sector cyhoeddus neu grwpiau cymunedol i sicrhau cymaint o werth cymdeithasol ag sy’n bosibl? Rhannwch enghreifftiau penodol o gydweithio, sydd wedi arwain at effaith gymdeithasol well.

Gwneud Mwy Na’r Disgwyl:
Ym mha ffyrdd y mae eich sefydliad wedi rhagori ar arferion caffael safonol er mwyn hybu gwerth cymdeithasol? Tynnwch sylw at fentrau unigryw, ymrwymiadau ychwanegol neu gamau gweithredu sy’n golygu eich bod yn arweinydd neilltuol yn y maes hwn.