Gwobr Arweinwyr y Dyfodol

Yn newydd ar gyfer 2025/26!

Mae’r categori hwn yn adnabod darpar arweinwyr caffael – sef y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol sy’n ailddiffinio beth sy’n bosibl a sut olwg fydd ar waith caffael yn y dyfodol. Mae’r categori yn agored i’r sawl sy’n dechrau ar eu gyrfa ym maes caffael, waeth ble y maent wedi dechrau ar eu siwrnai.

Sector: Y sector cyhoeddus.

Amserlen: Rhaid bod cais Gwobrau GO yn y categori hwn yn ymdrin â gweithgarwch yn ystod y cyfnod rhwng mis Ionawr 2024 a mis Mehefin 2025.

Cwestiynau Mynediad

Background

Rhowch fanylion am gefndir y sefydliad sy’n cyflwyno cais ar gyfer y categori hwn.(Ni fydd yr ateb hwn yn cael ei sgorio)

Beth y mae’r unigolyn a enwebir wedi’i gyflawni mor belled yn ei rôl ym maes caffael cyhoeddus, a sut y mae wedi gwneud argraff yn gynnar?

Disgrifiwch gyfraniadau neu lwyddiannau penodol sy’n dangos potensial yr unigolyn a’i werth/gwerth i’r sefydliad ac i faes caffael cyhoeddus yn ei gyfanrwydd.

Sut y mae’r unigolyn a enwebir wedi dangos rhinweddau arweinyddiaeth, neu wedi perchnogi rhywbeth mewn modd a oedd y tu hwnt i’r hyn y disgwylid iddo/iddi gymryd cyfrifoldeb amdano?

Rhowch enghreifftiau o flaengaredd, penderfyniadau neu ddylanwad sy’n adlewyrchu gallu newydd i arwain.

Ym mha ffyrdd y mae’r unigolyn a enwebir wedi croesawu cyfleoedd i ddysgu a datblygu er mwyn tyfu yn ei rôl?

Esboniwch sut y mae wedi ceisio tyfu’n broffesiynol, gan gynnwys drwy hyfforddiant, proses fentora neu gyfleoedd i ddysgu mewn modd hunangyfeiriedig.

Sut y mae’r unigolyn a enwebir wedi cyfrannu at arloesi neu drawsnewid yn ei dîm/ei thîm neu’i sefydliad?

Disgrifiwch unrhyw syniadau newydd, gwelliannau neu newidiadau y mae wedi helpu i’w cyflwyno, a chanlyniadau’r ymdrechion hynny.

Sut y mae’r unigolyn a enwebir wedi cefnogi neu ysbrydoli pobl eraill, gan gynnwys cymheiriaid, cydweithwyr neu randdeiliaid?

Tynnwch sylw at enghreifftiau o gydweithio, mentora neu gyfrannu i dîm, sy’n dangos gallu’r unigolyn i ddylanwadu’n gadarnhaol ar bobl eraill.

Yn eich barn chi, pam y mae’r unigolyn hwn yn un o arweinwyr y dyfodol ym maes caffael cyhoeddus?

Crynhowch beth sy’n gwneud yr unigolyn yn berson neilltuol, gan gynnwys unrhyw gydnabyddiaeth y mae wedi’i chael a sut y mae’n llywio dyfodol y proffesiwn.