Gwobr Tîm Caffael y Flwyddyn

Mae gweithio mewn tîm yn elfen hanfodol o lwyddiant caffael cyhoeddus, ac mae Gwobr Tîm Caffael y Flwyddyn yn cydnabod pŵer a photensial dull eglur ac unedig o gaffael.

Mae’r Wobr hon yn cydnabod arweinyddiaeth, cyfathrebu, arloesi, cydweithio, datblygiad personol a dull ac agwedd sy’n canolbwyntio ar weithio fel aelod o dîm wrth ddarparu rhagoriaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Gall y timau fod yn rhai rhithwir yn ogystal â thimau sydd ar un safle, a gallant gynrychioli un sefydliad neu sawl sefydliad ond rhaid iddynt gynnwys unigolion sy’n gweithio tuag at yr un amcan neu nod. Gall ceisiadau gynnwys prosiect neu fenter benodol a gyflwynir gan dîm neu gall ganolbwyntio ar ei ddull gweithredu cyffredinol a’i lwyddiant.

Rhoddir cydnabyddiaeth ar sail llwyddiannau’r tîm mewn perthynas â’i faint a chymhlethdod ei waith caffael. Dylid darparu tystiolaeth o’r cynnydd a wnaed drwy weithio mewn tîm i gyfiawnhau’r cais.

Mae’n agored i: Sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru neu sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r sector preifat neu wirfoddol.

Amserlen: Rhaid i gais Gwobrau GO yn y categori hwn gyfeirio at waith a wnaed yn ystod y cyfnod rhwng mis Gorffennaf 2022 a mis Ionawr 2024..

Cwestiynau Mynediad

Cefndir
Rhowch drosolwg o’r tîm caffael gan gynnwys maint y tîm, rolau allweddol a nifer yr ymarferion caffael sy’n cael eu cynnal bob blwyddyn. Eglurwch hefyd unrhyw briodoleddau penodol sy’n anarferol neu’n unigryw yn eich barn chi, gan gynnwys manylion unrhyw brentisiaethau neu dalent sy’n dod i’r amlwg yn y tîm. (Ni fydd yr ateb hwn yn cael ei sgorio)

Rhowch fanylion unrhyw ymarfer neu gynllun caffael penodol y mae’r tîm wedi ymgymryd ag ef, sy’n dangos ei sgiliau, ei arbenigedd a’i ddull arloesol o sicrhau canlyniadau llwyddiannus.

Rhowch fanylion unrhyw ymarfer neu gynllun caffael penodol y mae’r tîm wedi ymgymryd ag ef, sy’n dangos ei sgiliau, ei arbenigedd a’i ddull arloesol o sicrhau canlyniadau llwyddiannus.

Eglurwch sut mae’r tîm caffael wedi dangos lefelau perfformiad, gallu ac ymrwymiad sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir, gan gynnwys enghreifftiau o waith tîm a chydweithio. Rhowch fanylion unrhyw fanteision y mae’r dull hwn wedi’u sicrhau.

Rhowch enghraifft o sut mae'r tîm caffael wedi rheoli unrhyw her(iau) annisgwyl mewn ymarfer caffael a’r camau a gymerwyd i sicrhau canlyniad llwyddiannus.

Rhowch dystiolaeth o dargedau penodol a osodwyd a pherfformiad neu fanteision mesuradwy eraill a gyflawnwyd gan y tîm caffael.